Cymeradwyo rhwydwaith arloesedd newydd y gwyddorau bywyd
9 Tachwedd 2016
Yn rhan o brosiect newydd €11.96m, bydd prifysgolion o'r radd flaenaf yng Nghymru ac Iwerddon yn cydweithio â busnesau bach a chanolig er mwyn datblygu cynhyrchion meddygol arloesol a allai chwyldroi sut rydym yn trin clefydau.
Bydd y rhwydwaith unigryw, sy'n cynnwys Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau FFeryllol ac Ysgol Fiowyddorau Prifysgol Caerdydd, yn canolbwyntio ar feysydd sy'n dod i'r amlwg fel meddygaeth fanwl gywir - dull o ddadansoddi a thrin cleifion mewn ffordd sy'n benodol ar eu cyfer.
Rhwydwaith Arloesedd Gwyddorau Bywyd Uwch Celtaidd (CALIN) yw enw'r rhwydwaith a chaiff ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Bydd yn galluogi Cymru ac Iwerddon i wneud datblygiadau pwysig mewn sawl maes meddygol, yn ogystal â chynhyrchu swyddi newydd a denu buddsoddiad i'r ddwy wlad.
Meddai'r Athro Arwyn Jones o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, Prifysgol Caerdydd: "Mae prosiect CALIN yn gyfle unigryw i Gymru gyflymu arloesedd meddygol yn y rhanbarth ac aros ar flaen y gad mewn meysydd sy'n dod i'r amlwg yn y sector meddygol...”
Arweinir CALIN gan Brifysgol Abertawe ac mae hefyd yn cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Coleg Prifysgol Dulyn, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon Galway, Coleg Prifysgol Cork, Unilever a GE Healthcare.
Meddai Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford AC: "Mae gwyddorau bywyd yn sector pwysig yng Nghymru ac Iwerddon. Bydd yr arian hwn yn cefnogi ymchwil a datblygu, sy'n hanfodol er mwyn creu swyddi, technoleg a chynnyrch newydd.
"Mae'n newyddion gwych i dros 240 o fusnesau bach a chanolig, ac rydw i wrth fy modd y caiff arbenigedd y prifysgolion sy'n cymryd rhan ei rannu a'i ddefnyddio ar draws y ddwy wlad."
Meddai Paschal Donohoe, Gweinidog Gwariant Cyhoeddus a Diwygio Llywodraeth Iwerddon: "Mae rhaglen Cymru-Iwerddon yn dangos sut y gall arian yr UE gyfrannu at gydweithio'n llwyddiannus ar draws ffiniau - a hynny ar draws ffin forol y DU yn yr achos hwn. Mae prosiect CALIN yn enghraifft wych o sut mae'n cefnogi ymchwil a datblygu mewn prifysgolion er budd busnesau o bob maint. Mae'n arwain at swyddi newydd a rhagor o fuddsoddiad mewn technolegau newydd.
"Mae'r cyhoeddiad hwn yn dangos bod yr arian sy'n rhan o raglen Cymru-Iwerddon yn mynd rhagddo ac y gall buddiolwyr y rhaglen baratoi'n hyderus ar gyfer y dyfodol. Mae Llywodraeth Iwerddon yn cefnogi'r rhaglen gant y cant ac mae wedi ymrwymo i'w rhoi ar waith yn llwyddiannus."
Bydd y rhwydwaith yn cynnig Ymchwil a Datblygiad, datblygiad technolegol ac arloesedd i fusnesau bach a chanolig ym maes meddygaeth fanwl gywir (diagnosteg, dyfeisiau a therapiwteg), meddyginiaeth adfywiol, a gwerthuso diogelwch a bio-gydnawsedd.
Bydd yr holl weithgareddau ymchwil a datblygu yn cynnwys partneriaeth rhwng cwmni bach neu ganolig a phrifysgol yng Nghymru neu Iwerddon dros gyfnod o 1-3 blynedd, gan ddibynnu ar natur y rhaglen ddatblygu.
Mae CALIN yn gobeithio ymgysylltu â thros 240 o fentrau ledled Cymru ac Iwerddon, a dylai busnesau bach a chanolig sydd â diddordeb gysylltu ar Athro Arwyn Jones.