Gwobr £10m yn creu canolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
5 Rhagfyr 2016
Mae gwobr £10 m a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad o ran ymchwil i dechnoleg arloesol Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.
Bydd yr arian gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) yn dod ag academyddion y DU a byd diwydiant ynghyd mewn canolfan a fydd yn arbenigo ar led-ddargludyddion cyfansawdd.
Bydd Canolfan Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Dyfodol EPSRC yn gweithio'n agos gyda’r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd(CSC) – partneriaeth rhwng Caerdydd ac IQE, gwneuthurwr wafferi lled-ddargludyddion uwch byd-eang.
Prifysgol Caerdydd fydd yn arwain y ganolfan gyda thri phartner academaidd allweddol: Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Manceinion a Phrifysgol Sheffield.
Bydd 26 cwmni a sefydliad cychwynnol arall sy’n perthyn i’r Ganolfan yn helpu Caerdydd a bydd Cymru’n elwa ar £50m Catapwlt Ceisiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a gyhoeddwyd gan Innovate UK ym mis Ionawr.
Meddai Julie James AC, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru: "Mae arloesi wrth wraidd Strategaeth Llywodraeth Cymru..."
“Bydd y Ganolfan yn rhoi sylw byd-eang i Gymru ac mae’n enghraifft o sut bydd ymagweddu Clyfar Llywodraeth Cymru at arloesi o fudd i bobl a busnesau Cymru.”
Ar un adeg roedd silicon yn sail i’r gymdeithas wybodaeth, ond mae’r dechnoleg yn cyrraedd terfynau sylfaenol yn yr 21ain ganrif. Cymhwyso gwybodaeth am led-ddargludyddion cyfansawdd i dechnegau gweithgynhyrchu silicon fydd prif ganolbwynt y fenter newydd.
Meddai’r Athro Peter Smowton, Cyfarwyddwr y Ganolfan, "Bydd y Ganolfan yn cynnig cyfleusterau gorau Ewrop a fydd yn troi ymchwil yn dwf lled-ddargludyddion cyfansawdd ac yn weithgynhyrchu dyfeisiadau ar raddfa fawr..."
Meddai Drew Nelson, Prif Weithredwr IQE sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd: “Cynhyrchodd IQE ddeunyddiau lled-ddargludyddion cyfansawdd ar gyfer 10 biliwn o sglodion diwifr y llynedd, a hynny’n sail i’r diwydiant cyfathrebu symudol ledled y byd. Bydd y Ganolfan yn ein galluogi i fanteisio ar nodweddion hynod fanteisiol electronig, magnetig, ac optegol Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a’u gallu i drin pŵer, tra byddwn yn defnyddio cost a manteision graddio technoleg silicon lle mae fwyaf addas.”
Cafodd partner prosiect arall y Ganolfan, Oclaro, gwneuthurwr cydrannau optegol o UDA, dwf o 50% y chwarter hwn o’i gymharu â’r chwarter diwethaf wrth gynhyrchu trawsdderbynyddion 100 Gbit a ddatblygwyd ac a weithgynhyrchwyd yn y DU, a hynny’n cynorthwyo cyfathrebu ar y Rhyngrwyd.
Nod y Ganolfan yw cynyddu partneriaethau tymor hir i’r dyfodol â chwmnïau ac academyddion y DU ac yn rhyngwladol.
Ychwanegodd Peter Smowton: "Rydym yn agored i ryngweithio gyda chwmnïau partner a phrifysgolion newydd, a gallwn gynnig cyfleoedd drwy alwadau am arian prosiectau dichonoldeb i roi hwb i bartneriaethau’r dyfodol sydd â’r gallu i newid y ffordd rydym yn byw."