Cyfleoedd i Ferched ym Myd Cyfrifiaduron
4 Tachwedd 2016
Prifysgol Caerdydd yn cynnal digwyddiad un diwrnod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ferched i gael gyrfa mewn rhaglennu a seiberddiogelwch.
Mae chwe deg o fenywod ysgol uwchradd o ledled Cymru wedi ymweld â Phrifysgol Caerdydd i gymryd rhan mewn digwyddiad sy'n hyrwyddo gyrfaoedd mewn rhaglennu a seiberddiogelwch.
Roedd y digwyddiad, a gafodd ei gynnal yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg y Brifysgol ac a noddwyd gan gwmni cyfreithiol Baker & McKenzie, yn gyfle i'r merched ddysgu am hanes cyfrifiadura ac am sut i fynd ati i ddatrys problemau rhaglennu.
Rhoddwyd cyfle hefyd i'r merched gwrdd â menywod mewn swyddi TG yn y llywodraeth a byd busnes, gan gynnwys 10 Downing Street, Academi CISCO, Symantec, BT a Raytheon, ynghyd â nifer o gwmnïau rhyngwladol eraill a wnaeth sôn am gyfleoedd gyrfaol i'r merched.
Cynhaliwyd y digwyddiad 'Cyfleoedd i Ferched ym Myd Cyfrifiaduron' ond ychydig ddiwrnodau ar ôl i'r Canghellor, Phillip Hammond, gyhoeddi cynlluniau'r llywodraeth i wario £1.9bn ar seiberddiogelwch hyd at 2020.
Mae arbenigwyr wedi galw ar y canghellor i fuddsoddi rhywfaint o'r arian hwn yn yr ymgyrch i annog pobl ifanc i astudio cyfrifiadureg yn yr ysgol, ac i lenwi'r bwlch sgiliau sy'n bodoli ar draws y diwydiant.
Roedd ffigurau UCAS yn dangos mai dim ond 13% o fyfyrwyr cyfrifiadureg oedd yn fenywod – sy'n llai na'r ffigur yn 2010, sef 14%. Mae ffigurau'r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg yn dangos mai dim ond 3% o beirianwyr TG a chyfrifiadureg y DU sy'n fenywod.*
Hyd yn hyn, mae Baker & McKenzie wedi noddi dau ddigwyddiad allgymorth, un ohonynt yn eu swyddfeydd yn Ninas Llundain ym mis Ebrill eleni, ac un ym Mhrifysgol Anglia Ruskin yn Chelmsford, Essex ym mis Gorffennaf, ac mae ganddynt gynlluniau i gyflwyno'r rhaglen i ddinasoedd mawr gogledd Lloegr.
Dywedodd Dyann Heward-Mills, Pennaeth Diogelu Data a Seiberddiogelwch yn Baker McKenzie: “Mae tîm Baker & McKenzie yn hynod falch o ddod â menter 'Cyfleoedd i Ferched ym Myd Cyfrifiaduron' i Gaerdydd. Mae'r lefel o ddiddordeb a chymorth ar gyfer y fenter wedi bod yn wych. Rwy'n credu'n gryf y dylai menywod gael llais yn yr oes ddigidol, a bydd dysgu sgiliau allweddol fel rhaglennu a chyfrifiadureg yn gwneud hynny'n bosibl. Rwy'n ddiolchgar i Brifysgol Caerdydd a'r holl bartneriaid sydd, ar y cyd â Baker & McKenzie, yn parhau i ymdrechu i gael mwy o amrywiaeth a chynhwysiant yn y maes pwysig hwn."
Dywedodd Pat Ryan, cyn-Brif Weithredwr Gweithredol ym maes TG a anwyd yng Nghaerdydd ond sydd bellach wedi ymddeol, a helpodd i ddatblygu'r fenter: "Fy nod oedd annog merched i ddod yn rhan o fyd rhaglennu a chyfrifiaduron, sy'n faes diddorol dros ben, ond y catalydd a roddodd gychwyn i'r fenter oedd cwrdd â Dyann Heward-Mills. Ces i fy ngeni a'm magu yng Nghaerdydd, felly mae'r digwyddiad hwn yn gyffrous iawn i ni."