Ewch i’r prif gynnwys

#CONNECT

2 Tachwedd 2016

#Connect Team

Bydd cyfansoddwr o Brifysgol Caerdydd yn cynnal perfformiad cynta’r byd o’i waith newydd er mwyn cloi noson olaf cyfres cyngherddau’r PROMS Cerddoriaeth Ieuenctid.

Mae #CONNECT, a ysgrifennwyd gan Dr Daniel Bickerton o’r Ysgol Gerddoriaeth, yn cynnwys 600 o gerddorion ifanc rhwng 11 a 21 oed, a bydd yn cael ei berfformio ar 16 Tachwedd 2016 yn Neuadd Frenhinol Albert.

Comisiynwyd Dr Bickerton gan elusen Cerddoriaeth ar gyfer Ieuenctid i ysgrifennu’r darn fel diweddglo mawreddog eu cyngerdd, a bu’n cydweithio â gwasanaethau cerddoriaeth yng nghymoedd y de gan gynnwys Gwent a Chaerffili.  Bydd tua 400 o gantorion a 200 o offerynwyr yn cynnwys ensemble jazz, llinynnau, offer taro, lleisiau SATB a lleisiau iau, a byddant hefyd yn cynnwys dawnswyr, bît-bocswyr ac electro-acwsteg.

Nod #CONNECT yw dathlu esblygiad technolegol. Mae’n waith mewn pedwar symudiad, pob un yn canolbwyntio ar wahanol agwedd ar dechnoleg. Mae'r symudiad agoriadol yn ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol, ac yn defnyddio testun o negeseuon cyfryngau cymdeithasol. Mae’r lleill yn canolbwyntio ar y teledu, ar ffonau symudol, a’r ffordd rydyn ni fel pobl y byd yn cysylltu â’n gilydd drwy'r rhyngrwyd.

Mae Timothy Johnston, myfyriwr BMus trydedd flwyddyn, wedi bod yn cynorthwyo gydag agweddau ar y cynhyrchiad, diolch i Raglen Cyfleoedd Ymchwil Prifysgol Caerdydd (CUROP). Llwyddodd Dr Bickerton i sicrhau cyllid gan CUROP i dalu am leoliad gwaith gyda thâl dros yr haf, gan roi cyfle unigryw i Timothy weithio ar brosiect ymchwil a gwella ei sgiliau academaidd a cherddorol.

Mae Timothy wedi bod yn cefnogi Dr Bickerton ag offeryniaeth, cynhyrchu’r electro-acwsteg, a chymysgu. Bydd hefyd yn cymryd rhan ym mherfformiad y première.

Yn ogystal â chyllid CUROP, mae prosiect Dr Bickerton wedi sicrhau cyllid o hyd at £20,000 o amrywiaeth eang o ffynonellau, gan gynnwys Awdurdod Addysg Lleol Tor-faen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chronfa Gymunedol Uchel Siryfion Gwent.

Meddai Dr Bickerton: "Er bod hyn yn gyfle gwych i mi arwain fy ngwaith fy hunan yn Neuadd Frenhinol Albert, rwyf wrth fy modd fy mod, drwy gyllid y Brifysgol, wedi gallu rhoi cyfle i un o’n hisraddedigion eithriadol weithio ochr yn ochr â fi gyda’r prosiect cyffrous yma. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Tim, sy’n hynod broffesiynol, ac rwy'n ddiolchgar iawn i gynllun CUROP am gyfrannu cyllid i'r comisiwn yma."

Rhannu’r stori hon

Explore our courses in detail in course finder and find out how to apply.