Gofal gwell i bobl sy'n marw
2 Tachwedd 2016
Mae ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie ym Mhrifysgol Caerdydd wedi amlygu'r angen dybryd am ofal gwell i bobl sy'n marw, a bod angen rhagor o gefnogaeth ar gyfer y perthnasau a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gofalu amdanynt.
Yn ôl arolwg oedd yn cynnwys dros 1,400 o ofalwyr, gan gynnwys perthnasau, ffrindiau a gweithwyr gofal iechyd, y prif feysydd sy'n peri rhwystredigaeth yw'r anawsterau wrth gael gafael ar ofal a hyfforddiant, yn enwedig y tu allan i oriau gwaith, cydlynu gwael rhwng gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, a diffyg cyfathrebu a dealltwriaeth drwyddi draw ynghylch marwolaeth a marw.
Nod yr arolwg oedd amlygu cwestiynau ar gyfer ymchwil sy'n gysylltiedig ag iechyd. Fodd bynnag, wrth ddadansoddi'r data daeth i'r amlwg bod llawer o'r ymatebion yn ymwneud â phrofiad personol, hanesion a chwestiynau yn hytrach nag ymchwil glinigol.
Felly, cafodd adroddiad newydd a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ei gomisiynu i ddadansoddi data'r arolwg yn fanylach.
Dyma rai o'r pryderon cyffredin a ddaeth i'r amlwg yn yr arolwg:
- Penderfynu ar y lle gorau i berthynas farw
- Diffyg cymorth y tu allan i oriau gwaith
- Y pynciau sy'n ymwneud â marwolaeth y mae pobl yn amharod i'w trafod
- Cael gwybodaeth am y gwahanol driniaethau sydd ar gael, deall symptomau fel poen ac aflonyddwch, maeth, a defnyddio meddyginiaeth megis morffin
- Cael gafael ar wasanaethau, therapïau ac offer arferol neu arbenigol i alluogi gwell gofal yn y cartref
- Anghenion cleifion sydd â dementia a chyflyrau angheuol eraill heblaw am ganser megis clefyd niwronau motor neu sglerosis ymledol
- Cydlynu gwael rhwng y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol a diffyg chyfathrebu rhwng teuluoedd a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol
- Diffyg cefnogaeth ariannol a phecynnau cymorth sy'n cynnwys gofal yn y cartref
- Anghenion emosiynol y bobl sy'n gofalu am anwyliaid yn y cartref a'r diffyg cefnogaeth ar gyfer perthnasau sydd wedi cael profedigaeth.
- Yr iaith a ddefnyddir wrth drafod gofal cyn marwolaeth
Meddai Dr Annmarie Nelson, Cyfarwyddwr Gwyddonol, Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie, a arweiniodd yr ymchwil: "Mae'r canfyddiadau hyn yn cadarnhau canlyniadau'r adroddiad diweddar a gomisiynwyd gan elusen Marie Curie. Dangosodd yr adroddiad hwn nad yw dros 110,000 o bobl sy'n dioddef o salwch angheuol yn y DU yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt bob blwyddyn...”
Mae adroddiadau diweddar yn cadarnhau nad oes digon o adnoddau ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes a bod dim digon o ymchwil wedi'i chynnal yn y maes. Mae'r arian sy'n cael ei ddyrannu ar gyfer ymchwilio i ddiwedd oes yn hawlio llai na 0.16% o'r cyfanswm sy'n cael ei wario ar ymchwil iechyd yn y DU.
Cynhaliwyd yr arolwg yn 2014 gan y Priority Setting Partnership (PeolcPSP), sy'n ymwneud â gofal lliniarol a diwedd oes, gydag Ymddiriedolaeth James Lind (JLA).