Cynhadledd arloesedd rhanbarthol yn dod i Gaerdydd
2 Tachwedd 2016
Bydd cynhadledd ryngwladol flaenllaw yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd yr wythnos hon.
Bydd mwy na 100 o ymchwilwyr rhyngwladol, llunwyr polisïau ac ymarferwyr yn rhannu syniadau am systemau arloesi trefol a rhanbarthol, datblygiad rhanbarthol, a pholisïau arloesedd rhanbarthol. Bydd yr 11eg Cynhadledd Polisïau Arloesedd Rhanbarthol 2016 yn cynnwys anerchiadau gan academyddion blaenllaw o Awstria, Norwy, y Weriniaeth Tsiec a Chanada.
Dywedodd yr Athro Kevin Morgan, Athro Llywodraethu a Datblygu, yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: "Rydym yn hynod falch bod Caerdydd wedi'i dewis i gynnal y digwyddiad rhyngwladol blaenllaw hwn, gan mai hon yw'r brif gynhadledd academaidd ym maes astudiaethau arloesedd rhanbarthol. Mae digwyddiad eleni yn dangos bod y ddealltwriaeth sydd gennym o arloesedd yn brysur newid, oherwydd mae arloesedd cymdeithasol bellach yn cael ei ystyried yr un mor bwysig ag arloesedd technolegol, a gall prifysgolion chwarae rhan fawr yn y byd newydd hwn os ydynt o ddifri am eu cenhadaeth sifig".
Cynhelir y digwyddiad yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn Adeilad Morgannwg ar 3 a 4 Tachwedd.
Bydd y cynadleddwyr yn ymchwilio i'r heriau sylweddol y bydd llunwyr polisïau yn eu hwynebu, gan gynnwys sut i sbarduno ffyrdd newydd o arloesi, systemau arloesedd trefol o'u cymharu â rhai gwledig, dulliau newydd o gyfnewid gwybodaeth, arloesedd ar draws ffiniau a gwledydd, a'r rôl y mae prifysgolion yn ei chwarae mewn arloesedd rhanbarthol. Am ragor o fanylion ewch i: http://www.cardiff.ac.uk/cy/conferences/2016-regional-innovation-policies-conference