Cyfieithu iaith i greu cymdeithas gryfach
1 Tachwedd 2016
Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn arwain prosiect arloesol i astudio a chefnogi ieithoedd yn Namibia ar ôl sicrhau grant mawr gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).
Bydd y gwaith, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Namibia (UNAM) a Phrifysgolion Bryste, St Andrews a Warwick yn y DU, yn sicrhau cyfathrebu mwy effeithiol mewn gwlad lle caiff y Saesneg ac Afrikaans eu siarad ymhlith llawer o ieithoedd brodorol.
Gobaith yr ymchwilwyr yw y bydd gwell trosi a chyfieithu'n gallu gwneud cyfraniad sylweddol i amcanion fel lleihau tlodi a hyrwyddo iechyd.
Mae'r Prosiect, ‘Trawswladoli Iaithoedd Modern: Heriau Byd-eang (Transnationalizing Modern Languages: Global Challenges), wedi cael grant o £232,532 - a bydd ar waith rhwng mis Tachwedd 2016 a mis Mehefin 2017.
Cefnogir y gwaith gan Brosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd – prosiect ymgysylltu sy'n gweithio gydag UNAM a Llywodraeth Cymru ar amrywiaeth o weithgareddau sy'n cynnwys addysg, iechyd, cyfathrebu a gwyddoniaeth.
Dywedodd yr Athro Loredana Polezzi, o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd, sy’n arwain y prosiect: "Rydym ni'n gobeithio casglu gwybodaeth newydd am ddynameg amlieithrwydd a rôl cyfieithu mewn gwlad ddatblygol fel Namibia.
"Byddwn yn ceisio sensiteiddio grwpiau allweddol yn Namibia i'r themâu hyn, creu adnoddau addysgol y gellir eu defnyddio gan athrawon yn ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol a'u hyfforddwyr, a dod â gwersi pwysig adref ar sut i wneud y defnydd gorau o adnoddau ieithyddol cymdeithasau amlddiwylliannol."
Ariennir y prosiect gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau drwy Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang Llywodraeth y DU. Nod y gronfa yw gwella ffyniant ac ansawdd bywyd pobl mewn gwledydd datblygol.
Dywedodd Judith Hall, sy'n arwain Prosiect Phoenix ac sydd hefyd yn Athro Anaestheteg, Gofal Dwys a Meddygaeth Poen ym Mhrifysgol Caerdydd: "Fel meddyg rwyf i wedi ei chael yn anodd ers blynyddoedd lawer i wneud yn siŵr fod negeseuon gwir a gonest yn cael eu rhoi a'u derbyn gennyf i a fy nghleifion. Dyna beth mae gweithio ar draws ieithoedd yn ei olygu i fi."
Dywedodd yr Athro Kenneth Matengu, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd a Datblygu, UNAM: “Mae Namibia yn wlad sy’n wirioneddol ddwyieithog, ac rydyn ni am ofalu am ein treftadaeth gymhleth. Bydd y grant hwn yn ein galluogi i wneud hyn, ac i ddeall sut all ein hieithoedd barhau i fyw a ffynnu yn y dyfodol.”