Cwsg gwael i blant sy’n defnyddio dyfeisiau cyfryngau
31 Hydref 2016
Mae astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd wedi canfod bod plant sy'n defnyddio dyfeisiau'r cyfryngau sydd â sgrîn pan mae'n amser gwely, dros ddwywaith yn fwy tebygol o gael cwsg annigonol o'u cymharu â phlant sydd heb fynediad at ddyfeisiau o'r fath.
Roedd yr astudiaeth yn cynnwys adolygiad trefnus o 20 o astudiaethau cyfredol oedd yn cynnwys 125,198 o blant, a daeth i'r amlwg bod y dyfeisiau hyn yn effeithio yn yr un modd ar ansawdd cysgu a theimlo'n gysglyd yn ystod y dydd.
Yn ôl Dr Ben Carter o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Ein hastudiaeth yw'r un gyntaf i gyfuno'r canlyniadau ar draws ymchwil gyfredol, ac mae'n brawf pellach o effaith andwyol dyfeisiau'r cyfryngau ar hyd ac ansawdd cwsg.
"Nid ydym bob amser yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cwsg yn natblygiad plant, gan fod diffyg cwsg yn aml yn achosi amrywiaeth o broblemau iechyd. O ystyried poblogrwydd cynyddol dyfeisiau cyfryngau cludadwy fel ffonau clyfar a thabledi, mae cwsg gwael ymhlith plant yn broblem sydd am waethygu. Mae ein canfyddiadau yn awgrymu bod angen dull cyfunol sy'n cynnwys rhieni, athrawon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, er mwyn gwella arferion cysgu wrth i amser gwely agosáu."
Ar hyn o bryd, mae gan 72% o blant a 89% o bobl ifanc o leiaf un ddyfais yn eu hystafell wely, ac fe'u defnyddir y rhan fwyaf ohonynt wrth agosáu at amser gwely. Credir bod dyfeisiau o'r fath yn cael effaith andwyol ar gwsg mewn sawl ffordd. Maent yn disodli, yn gohirio neu'n torri ar draws amser cysgu; yn ysgogi'r ymennydd yn seicolegol; yn ogystal ag effeithio ar gloc y corff, ffisioleg cwsg a bywiogrwydd.
Gwyddwn fod tarfu ar gwsg yn ystod plentyndod yn arwain at ddeilliannau corfforol a meddyliol andwyol. Mae'r deilliannau iechyd andwyol tymor byr a thymor hir yn cynnwys diet gwael, ymddygiad tawelyddol, gordewdra, llai o imiwnedd, twf arafach ac anawsterau iechyd meddwl#.
Mae canlyniadau'r astudiaeth i'w gweld yn JAMA Pediatrics(Carter B, et al, 2016).