Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol
28 Hydref 2016
Caiff ymchwil gwyddorau cymdeithasol arloesol Prifysgol Caerdydd ei dathlu mewn gŵyl dros wythnos ym mis Tachwedd.
Nod Gŵyl gyntaf Gwyddorau Cymdeithasol Caerdydd yw codi ymwybyddiaeth o ymchwil gwyddorau cymdeithasol ragorol Caerdydd - ymchwil sy’n llywio datblygiad polisïau, gwasanaethau ac arloesi, ac yn mynd i’r afael â heriau cymdeithasol mawr yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Rhwng 5-12 Tachwedd 2016, cynhelir y digwyddiadau canlynol yn ystod yr wythnos: Cyflwynir Mam-gu, Mam a Fi: bwydo ein babanod sef arddangosfa ymarferol, gydag arteffactau a delweddau hanesyddol sy’n ymwneud â hanes a chymdeithaseg bwydo babanod; Perthyn: Hapusrwydd yn y ddinas sy’n gwahodd ceiswyr lloches a ffoaduriaid, ynghyd ag aelodau eraill o’r cyhoedd, i fyfyrio am ystyr perthyn; a Gwylio chi, gwylio fi: goruchwyliaeth teledu cylch cyfyng mewn democratiaeth sy’n trafod goblygiadau goruchwyliaeth gan y wladwriaeth a goruchwyliaeth breifat i gymdeithasau democrataidd.
Bydd ymchwilwyr hefyd yn rhannu eu gwaith ar faterion fel comas ac ymwybyddiaeth, emosiynau yn Hollywood a gwyddoniaeth, anableddau yn y gwaith a system newidiol iechyd meddwl.
Dywedodd yr Athro Gillian Bristow, Deon Ymchwil, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: “Mae’n wych cynnal Gŵyl gyntaf Gwyddorau Cymdeithasol Caerdydd fis Tachwedd a brolio cryfder ac ehangder ymchwil gwyddorau cymdeithasol yma ym Mhrifysgol Caerdydd...”
“At y diben hwn, rydym yn cyflawni menter uchelgeisiol newydd i adeiladu Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf y byd (SPARK). Yn ystod yr ŵyl, rydym yn cynnal digwyddiad y gall pobl ddod iddo i ddysgu mwy am sut y bydd y Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol yn meithrin ffordd newydd o gynnal gwaith ymchwil a fydd yn cynnig atebion arloesol ac effeithiol i broblemau cymdeithasol byd-eang o bwys.”
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ŵyl yma. Mae’r digwyddiadau am ddim, ac yn cael eu cynnal yn y Brifysgol ac mewn lleoliadau ledled canol y ddinas.
Cefnogir yr ŵyl gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, fel rhan o Wythnos Genedlaethol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae’r ŵyl genedlaethol yn gyfle i unrhyw un gwrdd â rhai o wyddonwyr cymdeithasol amlycaf y wlad a thrafod a dysgu am y rôl sydd gan ymchwil gwyddorau cymdeithasol ym mywyd pob dydd.