Myfyrwyr yn fuddugol eto yn y Stomp flynyddol
28 Ionawr 2003
Cafwyd noson hwyliog dros ben yn Yr Hen Lyfrgell, nos Lun 10 Hydref 2016, pan gynhaliwyd Stomp rhwng myfyrwyr a staff Ysgol y Gymraeg gyda'r stompfeistri Dr Llŷr Gwyn Lewis a Gruffudd Eifion Owen.
Cafwyd cystadlu brwd a safon rhagorol i’r cyfansoddiadau llenyddol, a oedd yn cynnwys y dwys a’r digri, yr adloniadol a’r teimladwy. Ar ddiwedd y noson tîm y myfyrwyr a ddaeth i’r brig, a hynny am y pumed tro yn olynol.
Yn ogystal a buddugoliaeth tîm y myfyrwyr, y myfyrwyr hefyd a gipiodd wobrau unigol y noson. Enillodd Gethin Davies Goron Bardd y Noson a Sara Anest a wnaeth ennill Tiara Telyneg Orau'r Noson. Caeo Harri Hughes a gafodd y binafal anrhydeddus am y limrig orau o blith y gynulleidfa.
Llongyfarchiadau mawr i bawb a oedd yn cystadlu ac i’r myfyrwyr am fuddugoliaeth ysgubol arall. Tybed a allant gynnal y safon y flwyddyn nesaf!
Roedd y noson yn llwyddiant mawr ac yn ogystal a’r hwyl a sbri, fe godwyd dros £100 tuag at Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Yn ystod y flwyddyn bydd Ysgol y Gymraeg yn cynnal nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau amrywiol er mwyn codi rhagor o arian tuag at gronfa’r Eisteddfod.