Meddyliau'n dod at ei gilydd
26 Hydref 2016
Mae arbenigwyr o'r Brifysgol wedi cwrdd ag arbenigwyr o'n partner rhyngwladol, KU Leuven, i drafod agweddau modern ar ddadansoddi a chyfrifiadura gwyddonol.
Yn y cyfarfod, a gynhaliwyd gan Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ac Ysgol Mathemateg y Brifysgol, daeth academyddion o brifysgol mwyaf Gwlad Belg at ei gilydd i rannu eu gwybodaeth am theorïau, algorithmau, a datrysiadau.
Cynhaliwyd y digwyddiad wrth i'r Brifysgol ddathlu ei helfen ryngwladol fel rhan o wythnos #WeAreInternational (24-30 Hydref). Lansiwyd yr ymgyrch hon yn 2013 er mwyn helpu i sicrhau bod prifysgolion yn parhau i fod yn gymunedau amrywiol a chynhwysol sy'n agored i fyfyrwyr a staff o bedwar ban y byd.
Croesawyd academyddion o KU Leuven i'r Brifysgol gan yr Athro Karen Holford, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Yna, aeth y ddwy garfan ati i wneud cyflwyniadau gwyddonol.
Dywedodd yr Athro Walter Van Assche, o Adran Mathemateg KU Leuven: "Roedd yn ddiddorol gweld bod rhai o gyflwyniadau'r cyfarfod yn gorgyffwrdd, felly mae yna bosibilrwydd y gallwn ni gydweithio ar waith ymchwil.
"Clywsom hefyd fod rhai pobl yng Nghaerdydd a Leuven eisoes yn cydweithio. Gobeithiwn y bydd y cydweithio rhwng Caerdydd a Leuven hefyd yn arwain at raddau PhD ar y cyd, gydag ymchwilwyr ifanc yn treulio amser yn y ddwy brifysgol."
Arwyddodd y Brifysgol gytundeb cydweithredol pwysig â KU Leuven yn 2014, gan greu partneriaeth a fyddai'n helpu i gynyddu incwm ymchwil, creu partneriaethau ymchwil newydd, a chynnig rhagor o gyfleoedd i fyfyrwyr a staff astudio ac addysgu dramor.
Mae'r bartneriaeth strategol hon yn rhan sylweddol o ymrwymiad rhyngwladol y Brifysgol, gan sicrhau bod amrywiaeth yn sbarduno creadigrwydd ac arloesedd, ac yn chwarae rhan bwysig yng ngweithgareddau a diwylliant y Brifysgol.