Y broblem 100,000 o flynyddoedd
26 Hydref 2016
Mae'r ffenomen rhyfedd hwn, sydd wedi'i alw 'y broblem 100,000 o flynyddoedd' wedi bod yn digwydd fwy neu lai ers miliwn o flynyddoedd, ac mae'n achosi i haenau enfawr o iâ orchuddio Gogledd America, Ewrop ac Asia. Hyd yma, nid yw gwyddonwyr wedi gallu esbonio pam mae hyn yn digwydd.
Roedd oesoedd iâ ein planed yn arfer digwydd bob 40,000 o flynyddoedd. Roedd hyn yn gwneud synnwyr i wyddonwyr gan fod tymhorau'r Ddaear yn amrywio mewn ffyrdd disgwyliedig, gyda hafau oerach yn ystod yr adegau hyn. Fodd bynnag, digwyddodd rhywbeth ar adeg penodol tua miliwn o flynyddoedd yn ôl. 'Canolbwynt y Cyfnod Pleistostenaidd' yw'r enw ar yr adeg o dan sylw, ac fe newidiodd y cyfnodau rhwng yr oesoedd iâ o fod pob 40,000 mlynedd i bob 100,000 mlynedd.
Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw yn y cyfnodolyn Geology wedi awgrymu y gallai'r cefnforoedd fod yn gyfrifol am y newid hwn. Yn benodol, cyfeiriwyd at y ffordd y maent yn sugno carbon deuocsid (CO2) o'r atmosffer.
Drwy astudio cyfansoddiad cemegol ffosiliau bychain ar wely'r môr, daeth i'r amlwg i'r tîm fod mwy o CO2 yn cael ei gadw mewn cefnforoedd dyfnion yn ystod cyfnodau oes yr iâ sy'n digwydd yn rheolaidd bob 100,000 mlynedd.
Mae hyn yn awgrymu bod carbon deuocsid ychwanegol yn cael ei dynnu o'r atmosffer ac i'r cefnforoedd ar y pryd, a bod hynny wedi gostwng y tymheredd ar y Ddaear a galluogi haenau enfawr o iâ i orchuddio Hemisffer y Gogledd.
Dywedodd prif awdur yr ymchwil, yr Athro Carrie Lear o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd: "Mae'r cefnforoedd yn anadlu carbon deuocsid i mewn ac allan. Felly, pan mae'r haenau iâ yn fwy, mae'r cefnforoedd wedi anadlu carbon deuocsid i mewn o'r atmosffer, gan wneud y blaned yn oerach. Pan mae'r haenau iâ yn fach, mae'r cefnforoedd wedi anadlu carbon deuocsid allan, felly mae mwy yn yr atmosffer gan olygu bod y blaned yn gynhesach.
"Pan oedd yr haenau iâ yn ehangu ac yn encilio bob 100,000 mlynedd, roedd y cefnforoedd yn anadlu mwy o garbon deuocsid allan yn ystod y cyfnodau oer, gan awgrymu bod llai ohono ar ôl yn yr atmosffer. Fe ddangoson ni hyn drwy edrych ar ffosilau creaduriaid bychain iawn ar wely'r môr."
Mae gan algâu morol rôl hollbwysig er mwyn cael gwared ar CO2 o'r atmosffer gan ei fod yn elfen hanfodol o ffotosynthesis.
Mae CO2 yn mynd yn ôl i'r atmosffer pan mae dŵr dwfn y cefnforoedd yn codi i'r wyneb drwy broses o'r enw ymchwyddo. Fodd bynnag, pan mae llawer iawn o iâ yn y môr, mae hyn yn atal y CO2 rhag cael ei anadlu allan, a gallai hynny wneud yr haenau iâ yn fwy ac ymestyn yr oes iâ.
"Os ydym yn meddwl am y cefnforoedd yn anadlu carbon deuocsid i mewn ac allan, mae'r holl iâ sydd yno bron fel cael loshin enfawr yn y geg. Mae fel cael caead ar wyneb y cefnfor," meddai'r Athro Lear.
Ar hyn o bryd, mae hinsawdd y ddaear mewn cyfnod cynnes rhwng cyfnodau rhewlifol. Daeth yr oes yr iâ ddiwethaf i ben tua 11,000 o flynyddoedd yn ôl. Ers hynny, mae tymheredd a lefelau'r môr wedi codi, ac mae'r capiau wedi mynd yn ôl i'r pegynau. Yn ogystal â'r cylchoedd naturiol hyn, mae allyriadau carbon sydd wedi'u creu gan bobl yn cael effaith hefyd drwy gynhesu'r hinsawdd.