Adnodd ymchwil i ddisgyblion ysgol
26 Hydref 2016
Mae ymchwilwyr ar draws y Brifysgol yn rhannu eu gwaith â myfyrwyr Cymru drwy gyfrannu Cynigion Prosiect Unigol i gronfa ddata ymchwil ar-lein newydd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru.
Mae'r gronfa ddata yn un o sawl menter y mae'r Brifysgol yn rhan ohonynt sy'n cefnogi'r broses o gyflwyno cymhwyster newydd Bagloriaeth Cymru.
Nod yr adnodd unigryw hwn yw helpu, ysbrydoli ac ennyn diddordeb myfyrwyr wrth iddynt ddewis eu cwestiynau ymchwil eu hunain ar gyfer yr Her Prosiect Unigol sy'n rhan o'r cymhwyster.
Hyd yma, mae'r Brifysgol wedi cyfrannu 29 o Gynigion Prosiect Unigol i gronfa ddata CBAC. Mae'r Cynigion yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gysylltu â meysydd ymchwil presennol y Brifysgol, ynghyd ag academyddion a allai o bosibl ddylanwadu ar ba radd y byddant yn ei dewis yn y dyfodol.
Mae'r testunau a gyflwynwyd hyd yn hyn yn cynnwys ymateb Japan i drychinebau naturiol, iechyd a lles mewn ysgolion, a'r math o sylw y mae Mwslimiaid yn ei gael yn y wasg.
Dywedodd Dr Michael Munnik, Darlithydd yn y Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU, yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd: "Mae'r prosiect hwn yn ffordd wych i Brifysgol Caerdydd gefnogi myfyrwyr yn rhaglen Bagloriaeth Cymru, ac wrth gwrs mae'n bosibl y gallai hefyd ennyn diddordeb pobl yn y cyrsiau yr ydym yn eu cynnig."
Prosiect Partneriaethau Ysgolion y Brifysgol sy'n gwneud y gwaith o gydlynu a gweinyddu'r prosiect, ac mae'r prosiect wedi'i reoli mewn cydweithrediad â CBAC.
Dywedodd Caroline Morgan, Rheolwr Fframwaith Bagloriaeth Cymru yn CBAC: "Mae gallu rhoi cyfle i fyfyrwyr o Gymru i ymgysylltu â'r gwaith ymchwil sy'n cael ei wneud ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd yn beth gwych. Ry'n ni wedi cael ein synnu gan y doreth o Gynigion Prosiect Unigol a anfonwyd aton ni yn dilyn y digwyddiad lansio gydag ymchwilwyr o wahanol rannau o'r Brifysgol."
Ar ôl i lansiad y prosiect yn y Brifysgol yn gynharach eleni fod mor llwyddiannus, bydd y Prosiect Partneriaeth Ysgolion a CBAC yn cynnal sesiwn arall ar 7 Tachwedd 2016.
Mae'r sesiwn hon yn agored i staff y Brifysgol sydd â diddordeb mewn cyfrannu testunau ymchwil i'w defnyddio ym Mhrosiect Unigol Bagloriaeth Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth yma.