Miliynau o bunnoedd yn y fantol mewn trafodaethau hollbwysig gyda'r trysorlys
24 Hydref 2016
Mae cannoedd o filiynau o bunnoedd yn y fantol mewn trafodaethau hollbwysig gyda'r Trysorlys, yn ôl adroddiad newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, ym Mhrifysgol Caerdydd, a'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid.
Mae'r adroddiad, For Wales Don't (Always) See Scotland: Adjusting the Welsh Block Grant after Tax Devolution, yn amlinellu'r problemau y bydd yn rhaid i Gyd-bwyllgor y Trysorlysoedd eu hystyried fel rhan o'i drafodaethau, er mwyn i ddatganoli treth fod yn llwyddiant.
Ar ôl datganoli treth, bydd gostyngiad blynyddol i grant bloc Cymru, ac mae hwn yn destun trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Mae'r Alban eisoes wedi cytuno ar ddull o addasu'r grant bloc, ond mae'r adroddiad yn dadlau y gallai seilio model datganoli Cymru ar y dull hwnnw fod yn anaddas, gan fod yna wahaniaethau sylweddol rhwng economïau a setliad datganoli Cymru a'r Alban.
Gallai'r gwahaniaethau hyn arwain at gannoedd o filiynau o doriadau heb eu hariannu (neu, mewn rhai amgylchiadau, cynnydd heb ei ariannu) i gyllideb Cymru os nad ydynt yn cael eu cynnwys mewn modd priodol yn y cytundeb Fframwaith Cyllidol yn nhymor yr hydref.
Dyma rai o brif ganfyddiadau'r adroddiad:
- Gan fod poblogaeth Cymru'n tyfu'n gymharol araf, bydd maint y sylfaen drethu gyffredinol yng Nghymru'n tyfu'n arafach nag yn Lloegr, waeth beth fo polisïau Llywodraeth Cymru. Gallai methu ag ystyried y gyfradd twf arafach hon olygu y byddai cyllideb Cymru £110 miliwn yn llai ar ôl 10 mlynedd, o'i gymharu â'r arian y byddai'r wlad wedi ei gael drwy'r grant bloc llawn.
- Mae sylfaen drethu Cymru'n wahanol iawn i weddill y DU, gyda llawer mwy o weithwyr ar incwm is. Golyga hyn y gallai ffactorau y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, megis polisi Llywodraeth y DU o gynyddu'r lwfans personol, effeithio'n fawr ar berfformiad cymharol trethi yng Nghymru.
Awgryma'r adroddiad ddwy ffordd bosibl o gyfrifo ar gyfer y gwahaniaethau yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod datganoli treth yn decach ac yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir.
- Y dewis cyntaf fyddai cyfrifo addasiadau ar wahân yn y grant bloc ar gyfer pob band treth (h.y. cyfraddau treth sylfaenol, uwch ac ychwanegol). Gallai hyn helpu i wneud yn iawn am gyfran sylweddol o'r gwahaniaethau yn nhwf refeniw y gellir eu priodoli i wahaniaethau mewn incwm pobl yng Nghymru a gweddill y DU.
- Yr ail ddewis fyddai mynegeio addasiad grant bloc Cymru yn ôl twf trethi mewn rhanbarthau o'r DU sy'n debycach i Gymru, megis gogledd Lloegr.
Wrth roi ei farn ynglŷn â'r adroddiad, dywedodd Ed Poole o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd:"Gall addasu grant bloc Cymru ar ôl datganoli trethi ymddangos yn fater technegol, ond mater hynod bwysig yw hwn. Mae cannoedd o filiynau o bunnoedd yn y fantol i gyllideb Cymru. Y cwestiwn sy'n ganolog i'r mater yw sut y gellir cyflwyno trethi newydd Cymru mewn modd sy'n deg a chynaliadwy i lywodraethau Cymru a'r DU.
"Mae'n rhaid ystyried ffactorau megis patrwm twf poblogaeth Cymru, a'i sylfaen drethu wahanol iawn, er mwyn lliniaru effeithiau negyddol sylweddol ar gyllideb Cymru."
Ychwanegodd David Phillips, Economegydd Ymchwil Uwch yn y Sefydliad Astudiaethau Cyllid:
"Er bod y model y cytunwyd arno ar gyfer yr Alban yn bwynt cychwyn defnyddiol wrth drafod sefyllfa Cymru, mae'n rhaid ystyried y gwahaniaethau sylweddol rhwng Cymru a'r Alban wrth benderfynu sut i addasu grant bloc Cymru.
"Mae'n hanfodol bod unrhyw gytundeb gan Weinidogion dros y misoedd nesaf yn destun craffu, a bod yr effaith bosibl o ran ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn y dyfodol yn cael ei hasesu'n drylwyr."