Dod â dysg o Rwsia i Gymru
21 Hydref 2016
Mae haneswyr ac ieithyddion blaenllaw o Rwsia’n dod i Gymru a Phrifysgol ar eu trip cyfnewid cyntaf, sy’n rhan o gynllun Symudedd Credyd Rhyngwladol a Mwy Eramus fis yma.
Yn y daith gyfnewid rhwng y ddwy brifddinas, bydd academyddion o Brifysgol Academaidd Wladol y Dyniaethau yn cyflwyno cyfres o chwe sesiwn diwtora a darlith o hanes yr henfyd a’r canol oesoedd i’r cyfnod modern, gan fwrw golwg newydd ar themâu yn hanes Prydain, Ewrop a Rwsia.
Bydd y daith gyfnewid gyntaf o’i bath rhwng Cymru a Rwsia’n dod ag arbenigwyr ynghyd i addysgu myfyrwyr yn y ddwy wlad ar bedwar ymweliad wythnos o hyd yn 2016-2017. Bydd yr academyddion yn cyfnewid prifddinasoedd yn 2017, pan fydd arbenigwyr ar chwyldroadau 1917 yn cyflwyno darlithoedd i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd fel rhan o raglen ddigwyddiadau yn y brifddinas, i nodi canmlwyddiant y Chwyldro Rwsiaidd. Bydd haneswyr o Gaerdydd yn mynd ar eu hymweliad terfynol cyn mis Mehefin 2017.
Meddai trefnydd y daith gyfnewid, y Darlithydd ar Hanes Ewropeaidd Modern Dr James Ryan, o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd: “Ar ôl cael croeso cystal ym Mosgo eleni, mae’n bleser croesawu’r ysgolheigion blaenllaw hyn yn ystod Wythnos #RydymNinRhyngwladol y Byd, pan fydd prifysgolion o bob rhan o’r DU yn dathlu eu cysylltiadau rhyngwladol...”
Ymhlith yr ysgolheigion sy’n ymweld mae’r Athro Sergei Karpyuk (Uwch Ymchwilydd yn Sefydliad Hanes y Byd), Dr Anna Anisimova (Uwch Gymrawd Ymchwil yn yr Adran Astudiaethau Canoloesol a Hanes Modern Cynnar), Dr Denis Fomin-Nilov (Darllenydd mewn Hanesydd a Rheithor Gweithredol GAUGN), Dr Anastasia Maier (Darllenydd mewn Hanes ac Uwch Gymrawd Ymchwil yn Sefydliad Hanes y Byd), Dr Natalia Gladysheva (Athro Cyswllt yn y Saesneg) a Dr Evgeniiya Prusskaia (Darlithydd a Chymrawd Ymchwil).
Fel rhan o’r daith gyfnewid, thema darlith arbennig gan yr Athro Cyswllt Saesneg Dr Natalia Gladysheva fydd ‘Y traddodiad Rwsiaidd a Sofietaidd academaidd mewn addysgu ieithoedd tramor yn y brifysgol’. Bydd arbenigwyr sy’n ymweld hefyd yn siarad fel rhan o gyfres seminarau reolaidd y Brifysgol, gan ddod ag ysgolorion blaenllaw i Gymru i rannu’r ymchwil ddiweddaraf.
Gan deithio tirnodau amlwg y ddinas yn ystod yr ymweliad, bydd y garfan o Fosgo’n cael eu croesawu’n ffurfiol i brifddinas Cymru mewn derbyniad ym Mhrif Adeilad hanesyddol y Brifysgol ar ddechrau eu harhosiad ar 24 Hydref.