Cwmni deillio o Gaerdydd yn manteisio ar farchnad fyd-eang newydd
21 Hydref 2016
Mae cwmni deillio o Brifysgol Caerdydd sy'n cynhyrchu offer llawfeddygol wedi cael sêl bendith i fanteisio ar farchnad fyd-eang yr amcangyfrifir ei bod yn werth £650 miliwn y flwyddyn.
Mae addasiad Alesi Surgical o’i gynnyrch arloesol Ultravision™ - yr "Ultravision Trocar™" - wedi ennill nod CE, sy’n galluogi'r cwmni i gael mynediad i'r farchnad trocarau enillfawr.
Mae trocarau’n ddyfeisiau mynediad, sy’n debyg i ysgrifbin, a ddefnyddir mewn dros saith miliwn o weithdrefnau twll clo ar yr abdomen bob blwyddyn, ledled y byd.
Mae pob un o'r gweithdrefnau laparosgopig hyn yn defnyddio hyd at bum trocar i gynnig mynediad at yr abdomen.
Lansiwyd Ultravision™ yn wreiddiol yn 2014 fel dyfais gyntaf y byd ar gyfer mynd ati i glirio anwedd a mater gronynnol a gynhyrchir gan offerynnau llawfeddygol modern y tu mewn i gleifion yn ystod llawdriniaeth laparosgopig heb yr angen am hidlo – proses ddiarhebol araf ac aneffeithlon a gynigir gan dechnolegau eraill sydd ar gael.
Mae Ultravision™ yn galluogi llawfeddygon i weld yn glir ac yn ddi-dor yn ystod pob gweithdrefn, gan leihau risg i’r claf ac amser y llawdriniaeth.
Dywedodd Dr Dominic Griffiths, Rheolwr Gyfarwyddwr Alesi Surgical: "Rydym wedi llunio rhywbeth sy’n datrys popeth ar gyfer llawfeddygon," meddai Dr Griffiths. "Drwy integreiddio Ultravision™ i mewn i drocar ansawdd uchel, rydym yn gwneud y broses o glirio mwg hyd yn oed yn haws i dimau llawfeddygol. Rydym wedi cael ein llethu gan adborth clinigol cadarnhaol am ddefnydd cynnar ac edrychwn ymlaen at ei gynnig drwy ein tîm gwerthu uniongyrchol yn y DU a thrwy ein partneriaid dosbarthu ledled y byd."
Maent yn cael eu defnyddio mewn ysbytai yng Nghymru a Lloegr yn barod, ac fe fydd Ultravision™ Trocar yn cael ei farchnata yn y DU cyn cael ei gyflwyno’n ehangach.
"Mae’r nod CE yn cynnig mynediad at lawer mwy o gyfleoedd o ran gwerthiant byd-eang," eglurodd Dr Griffiths, "Gall yr Ultravision™ Trocar gael ei ddefnyddio ymhobman, o’r weithdrefn laparosgopig symlaf i’r mwyaf cymhleth. Rydym yn hyderus y bydd llawfeddygon ym mhobman – rhai ohonynt sydd wedi gweithio’n agos iawn gyda ni i ddylunio’r cynnyrch - yn ystyried hwn i fod yn ddyfais angenrheidiol cyn hir."
Dywedodd Robyn Davies, Rheolwr Medicentre Caerdydd, "Mae Alesi yn brawf bod y gwyddorau bywyd yn fyw ac yn iach yma yng Nghymru. Mae craffter busnes a gwyddonol trawiadol y tîm yn gallu newid syniad unigryw yn fuddiant pellgyrhaeddol clinigol a masnachol. Mae Medicentre Caerdydd yn falch o fod yn cefnogi Alesi."
Sefydlwyd Alesi Surgical – sydd â’i bencadlys ym Medicentre Caerdydd - yn 2009 fel cwmni deillio Sefydliad Cymru ar gyfer Therapi Mynediad Minimol (WIMAT), rhan o Brifysgol Caerdydd.