Digon Hen i Fod Mewn Amgueddfa
20 Hydref 2016
Mae Gŵyl Gerddoriaeth Sŵn Caerdydd yn 10 oed eleni, ac mae'r ŵyl yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i gynnal gwaith ymchwil ynglŷn â'r profiad o fynd i wyliau cerddorol.
Fel rhan o'r prosiect hwn, bydd y tîm ymchwil yn agor Amgueddfa Gerddoriaeth Sŵn yn Arcêd y Castell yng nghanol y ddinas dros gyfnod yr ŵyl (21-23 Hydref).
Mae Amgueddfa Gerddoriaeth Sŵn yn gwahodd pobl leol sy'n hoff o gerddoriaeth fyw neu sy’n berchen ar leoliadau, ynghyd ag arbenigwyr cerddoriaeth a phobl adnabyddus, i rannu eu hanesion eu hunain ac i edrych yn ôl dros y 10 mlynedd ers i'r ŵyl gael ei sefydlu, a'r newidiadau a datblygiadau yn y ddinas sydd wedi effeithio ar yr ŵyl.
Dywedodd Dr Johann Gregory, cydlynydd Rhwydwaith Ymchwil Caerdydd Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Wrth i’r ŵyl dyfu a thyfu bydd y prosiect ymchwil, sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r Amgueddfa, yn cynnig cipolwg newydd ar ecoleg gwyliau a’u gwerth diwylliannol.”
Ychwanegodd Dr Jacqui Mulville, arweinydd y Grŵp Ymchwil Gwyliau yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd a phrif guradur Amgueddfa Gerddoriaeth Sŵn: “Mae cerddoriaeth yn rhan annatod o’n bywydau. Mae ein perthynas â cherddoriaeth i’w gweld yn amlwg yn ein cartrefi ar ffurf memorabilia - LPs, posteri, crysau-t, tocynnau, dillad a mwy. Rydyn ni’n cadw eitemau i’n hatgoffa o ddiwrnodau a nosweithiau i’w cofio, digwyddiadau pwysig neu adegau a newidiodd ein bywydau...”
“Mae 2016 wedi bod yn flwyddyn o newyddion cerddorol mawr hefyd, gyda dathliadau fel 10 mlynedd o Sŵn a 40 mlynedd o gerddoriaeth pync, marwolaethau trist sêr o’r byd cerddoriaeth, gan gynnwys Bowie a Prince, a chau lleoliadau cerddorol fel Fabric yn Llundain. Mae hwn yn amser da i ni ystyried faint mae cerddoriaeth yn ei olygu i ni.”
Dywedodd John Rostron, cyd-sylfaenydd Gŵyl Sŵn: “Nod yr amgueddfa yw rhoi’r cyfle i chi rannu’r pethau sy’n eich atgoffa o wyliau cerddoriaeth - boed yn hen fonion tocynnau neu’n hen grysau-t, neu ffyn drymio a daflwyd i’r dorf. Gallant fod yn straeon, neu fideos neu ffotograffau. Byddwn yn arddangos popeth yn ein hamgueddfa...”
“Mae gan lawer o bobl sy’n dwlu ar gerddoriaeth focsys a droriau yn llawn manion bethau, ac mae hwn yn gyfle i arddangos rhai ohonyn nhw; neu gymryd llun a’i anfon i ni, a rhannu’r straeon gwych hynny sydd gennych chi.”
Mae Amgueddfa Gerddoriaeth Sŵn yn cael ei chreu drwy wahodd torf o bobl i ddod â’u deunyddiau ynghyd, ac mae’r trefnwyr yn gwahodd y rheiny sy’n deall eu cerddoriaeth i ddod â thair eitem gyda nhw i’w harddangos yn ystod penwythnos Sŵn.
Gallwch wneud cyfraniadau fideo drwy’r cyfryngau cymdeithasol neu fynd â gwrthrychau gyda chi i’r amgueddfa neu recordio eich stori yno yn y fan a’r lle.
Bydd myfyrwyr o adran Archaeoleg a Chadwraeth y Brifysgol wrth law i roi cyngor ar sut i ofalu am femorabilia cerddoriaeth. Caiff yr holl ddarluniau a straeon eu casglu a’u harddangos yn rhith-oriel Amgueddfa Gerddoriaeth Sŵn.
Bydd yr amgueddfa ar agor i’r cyhoedd ddydd Gwener 21ain Hydref (12-5pm), dydd Sadwrn 22ain (12-5pm) a dydd Sul 23ain (12-5pm), ac mae am ddim i bawb.