Llunio’r ddinas-ranbarth
20 Hydref 2016
Mae Prifysgol Caerdydd yn dwyn ynghyd gwleidyddion, busnesau a grwpiau cymunedol i ystyried sut y gall ei myfyrwyr a’i staff helpu i lunio cyfeiriad Dinas-ranbarth Caerdydd yn y dyfodol.
Bydd y digwyddiad yn arddangos sut mae’r Brifysgol eisoes yn gweithio gyda phartneriaid yn y ddinas-ranbarth i wella iechyd a lles, hybu’r economi, atgyfnerthu cyflawniad unigol a gwella ansawdd ein hamgylchedd.
Creu Newid ar y Cyd: Mae Prifysgol Caerdydd a’i Gweithgareddau yn y Ddinas-ranbarth yn cael ei gynnal Ddydd Mawrth 1 Tachwedd 2016 yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, a bydd yn cynnwys arddangosiad cyhoeddus am ddim.
Mae’n dilyn galwad gan yr Aelod Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, ym mis Medi i brifysgolion “adennill eu cenhadaeth sifig” a helpu i aduno cymdeithas yng Nghymru ar ôl refferendwm y DU.
Dywedodd y trefnydd Dr Stevie Upton, sy’n gweithio ym mhrosiect ymgysylltu Cyfnewidfa’r Ddinas-ranbarth y Brifysgol, ei fod yn gyfle i ddod â grwpiau gwahanol o bobl ynghyd o bob rhan o’r ddinas-ranbarth i drafod ei dyfodol.
Meddai: “Mae staff a myfyrwyr yn gweithio’n helaeth â phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat ac elusennol yn Ninas-ranbarth Caerdydd, drwy amrywiaeth enfawr o brosiectau a rhaglenni addysgu a seiliedig ar ymchwil..."
“Yn yr un modd, mae llawer y gallwn ei ddysgu o weithio gydag eraill: mae prosiectau ledled y rhanbarth yn sail i rywfaint o’n gwaith ymchwil gweddnewidiol o’r radd flaenaf.”
Bydd y digwyddiad yn gyfle i gwrdd â’r staff a’r myfyrwyr sy’n gyfrifol am waith dinas-ranbarth y Brifysgol a rhannu barn ar sut y dylai’r Brifysgol fwrw ati.
Mae prosiectau ym mhob rhan o’r Brifysgol yn cymryd rhan, o ganolfan ragoriaeth yr Academi Feddalwedd Genedlaethol a phrosiect Dawnsio’r Lingo, sy’n ystyried sut y gall dawnsio a symudiadau gyfrannu at ddatblygu Cymraeg fel ail iaith i bobl ifanc yng ngogledd Merthyr.
Mae Cyfnewidfa’r Ddinas-ranbarth yn rhan o raglen Gweddnewid Cymunedau’r Brifysgol a lansiwyd ddyflwydd yn ôl ar y cyd â Llywodraeth Cymru a chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt.