Newyddiadurwr byd-enwog i draddodi darlith Hadyn Ellis
19 Hydref 2016

Bydd John Simpson, Golygydd Materion y Byd BBC, un o newyddiadurwyr mwyaf profiadol ac adnabyddus y byd, yn rhannu profiadau o'i fywyd fel gohebydd tramor yn narlith flaenllaw Hadyn Ellis Prifysgol Caerdydd.
Cynhelir 'We Chose to Speak of War and Strife:The World of the Foreign Correspondent’ ddydd Iau, 24 Tachwedd 2016. Bydd yn canolbwyntio ar achlysuron hollbwysig mewn hanes – gan gynnwys Rhyfel y Crimea a Fietnam; gwarchae Sarajevo a chwymp Baghdad – a hynny drwy lygaid y rhai a roddodd eu bywyd mewn perygl i'w gweld yn y fan a'r lle, ynghyd â hanesion anhygoel am yr hyn y bu'n rhaid iddynt ei wneud i ohebu.
Mewn gyrfa hanner can mlynedd o hyd gyda'r BBC, mae John wedi gohebu o dros 100 o wledydd ledled y byd, o 30 o barthau rhyfel, ac mae wedi cyfweld nifer o arweinwyr dadleuol y byd gan gynnwys Sadam Hussein, Osama Bin Laden, Nelson Mandela, Margaret Thatcher, Mikhail Gorbachev, Yasser Arafat, Cyrnol Gadhaffi, Ayatollah Khomeini, Robert Mugabe a'r Ymerawdwr Bokassa.
Bydd y ddarlith yn gymysgedd o hanesion am newyddiadurwyr gorau'r gorffennol a'r presennol, fel Martha Gellhorn, Ernest Hemingway, Don McCullin a Marie Colvin, ynghyd â straeon rhyfeddol am ei fywyd ei hun ar flaen y gad, er mwyn rhannu ei safbwynt personol am fywyd gohebwyr tramor.
Sefydlwyd Cyfres Darlithoedd Nodedig Hadyn Ellis er cof am yr Athro Hadyn Ellis CBE, a wnaeth gyfraniad pwysig at sefydlu disgyblaeth niwroseiciatreg wybyddol, ac a fu â rhan allweddol yn sefydlu Caerdydd fel un o brifysgolion ymchwil mwyaf blaenllaw y DU. Mae'r gyfres darlithoedd yn gwahodd siaradwyr sy'n adnabyddus ar lefel fyd-eang i Brifysgol Caerdydd i draddodi darlithoedd cyhoeddus mawreddog.
Cynhelir We Chose to Speak of War and Strife: The World of the Foreign Correspondent yn narlithfa Julian Hodge a bydd yn dechrau am 18:30.
Nid oes tocynnau ar ôl ar gyfer y digwyddiad hwn. Mae gennym restr aros rhag ofn y caiff unrhyw docynnau eu dychwelyd.