Arddangos ymchwil 'uwch grid' Prifysgol Caerdydd yn Tsieina
10 Hydref 2016
Arddangoswyd gwaith Prifysgol Caerdydd i ddylunio 'uwch grid' ynni adnewyddadwy ledled Ewrop mewn adroddiad rhyngwladol ynglŷn ag arloesedd yn y DU.
Mae Ysgol Peirianneg Caerdydd yn arwain partneriaeth ryngwladol rhwng y sectorau academaidd a diwydiannol gwerth €3.9 miliwn, sef prosiect arloesol i ddatblygu 'uwch gridiau' ar gyfer ynni gwynt ar y môr – a elwir yn 'Grid DC Aml-derfynell ar gyfer Gwynt ar y Môr', neu MEDOW.
Mae International Innovation by UK Universities yn tynnu sylw at y prosiect fel enghraifft o'r cyfraniad y mae prifysgolion y DU yn ei wneud i arloesedd ar lefel ryngwladol.
Lansiwyd yr adroddiad yn Shanghai gan Jo Johnson AS, Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth y DU, wrth iddo ymweld â Tsieina ar gyfer digwyddiadau i dynnu sylw at y berthynas gref sydd gan y DU a Tsieina ym meysydd addysg, gwyddoniaeth ac arloesedd.
Dywedodd prif beiriannydd prosiect MEDOW, Dr Jun Liang: "Cynhelir y prosiect tan 2017, ond rydym yn gobeithio gwneud cais am ragor o gyllid er mwyn parhau â MEDOW-2. Rydym bellach yn arwain y clwstwr Ynni yn y Rhwydwaith Vision2020 – rhwydwaith ymchwil ledled Ewrop ar gyfer busnesau bach a chanolig a phrifysgolion."
Mae'r consortiwm MEDOW yn cynnwys pum partner academaidd a chwe phartner diwydiannol o'r DU, Sbaen, Gwlad Belg, Portiwgal, Denmarc a Tsieina – enghraifft o'r DU yn arloesi ar lefel ryngwladol yn dilyn canlyniad y refferendwm am yr UE.
Y bwriad yw y bydd yr 'uwch gridiau' yn ymestyn dros gyfandir Ewrop a thu hwnt, gan gysylltu ffynonellau cynhyrchu ynni adnewyddadwy er mwyn sicrhau cyflenwad cyson i filiynau o gartrefi.