Caerdydd Creadigol yn un
18 Hydref 2016
Mae Caerdydd Creadigol yn dathlu blwyddyn gyntaf lwyddiannus o greu cysylltiadau a dathlu’r gymuned greadigol yn y ddinas.
Mae’r rhwydwaith o aelodau yn creu cysylltiadau rhwng pobl sy’n gweithio mewn unrhyw sefydliad, busnes neu swydd greadigol yng Nghaerdydd a’r ddinas-ranbarth a, thrwy annog pobl i weithio gyda’i gilydd, yn ceisio gwneud Caerdydd yn brifddinas o greadigrwydd.
Dros y 12 mis diwethaf, mae cannoedd o bobl greadigol wedi ymuno â rhwydwaith Caerdydd Creadigol gan weithio i lunio rhaglen o #52Peth - pethau sy’n ysbrydoli, sy’n hysbysu ac sy’n ymgysylltu. Mae’r digwyddiadau a’r gweithgareddau dilynol wedi galluogi aelodau i greu cysylltiadau, dysgu syniadau newydd, ehangu cynulleidfaoedd a hyrwyddo eu gwaith yn ogystal â dod o hyd i gyfleoedd newydd.
Gan weithio gyda sylfaenwyr y rhwydwaith, sef Canolfan Mileniwm Cymru, BBC Cymru Wales a Chyngor Caerdydd, a gyda chefnogaeth tîm Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, nod y rhwydwaith yw rhoi llais cryfach i gymuned yr economi greadigol ac annog ymchwil ac arloesi.
Dywedodd Cadeirydd yr Economi Ddigidol ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Ian Hargreaves: “Yn ei flwyddyn gyntaf, mae Caerdydd Creadigol wedi cyflawni pob un o’n pedwar nod cychwynnol.
“Roedden ni am wella ansawdd a rhoi hwb i’r momentwm rhwng unigolion yn yr economi greadigol yn ninas-ranbarth Caerdydd. Mae’r cynnydd yn nifer ein haelodau a’n dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn dyst i hyn, yn ogystal â straeon unigolion a sefydliadau am sut y cawsant help llaw gan rwydwaith Caerdydd Creadigol wrth weithio yn economi greadigol Caerdydd ar ôl dod o hyd i’r rhwydwaith ar-lein neu rywle arall.
“Rydyn ni hefyd wedi parhau i ehangu ein rhwydwaith ymchwil, gan gydweithio gyda phartneriaid fel Gŵyl Sŵn.
“Ein trydydd nod oedd ymchwilio i’r achos dros fuddsoddi mewn canolfan greadigol yng Nghaerdydd. Tra ein bod ni wrthi’n gofyn am adborth ac yn cynnal cynlluniau peilot, tyfodd grŵp bach o ganolfannau o’r hadau a oedd wedi’u plannu. Nawr rydyn ni’n canolbwyntio ar eu helpu i gysylltu â’i gilydd.
“Ein pedwerydd nod oedd dod o hyd i ffordd o helpu Caerdydd i gyfleu gweledigaeth ysgogol ynghylch ei huchelgais greadigol. Mae’r uchelgais a’r egni aruthrol sydd yma yn amlwg i unrhyw un o’r degau o filoedd o bobl a ddaeth ynghyd ar gyfer Gŵyl Dinas yr Annisgwyl Roald Dahl yn ddiweddar. Gobeithio y bydd gennym syniadau newydd i’w cyhoeddi’n fuan am ein camau nesaf tuag at y nod hwn.”
Dywedodd David Pearce, Cyfarwyddwr Strategol Canolfan Mileniwm Cymru: “Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn falch iawn o fod yn un o sylfaenwyr Caerdydd Creadigol ac yn llongyfarch y tîm ar y flwyddyn gyntaf lwyddiannus hon.
“Mae bod yn rhan o rwydwaith Caerdydd Creadigol yn gweddu i’n huchelgais o ysbrydoli ein gwlad a chreu argraff ar y byd. Drwy weithio gyda’r cyfoeth sydd i’w ganfod yn economi greadigol y Ddinas, gall y Ganolfan gydweithio i gyflawni ei gweledigaeth. Roedd hyn yn arbennig o amlwg yn ei chydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru a 6,000 o gyfranogwyr gwych i gyflwyno’r dathliad Dahl diweddar yng Nghaerdydd - Dinas yr Annisgwyl - lle dangosodd y Ganolfan, Caerdydd a Chymru eu gwir greadigrwydd.
“Mae’r Ganolfan hefyd wrth ei bodd o fod y sefydliad cyntaf i gynnal canolfan Caerdydd Creadigol, gan roi croeso cynnes i fwy na 30 o ymarferwyr. Hoffai’r Ganolfan ddymuno pob llwyddiant i rwydwaith Caerdydd Creadigol, ac mae’n edrych ymlaen at ddatblygu ein perthynas agos ymhellach, er budd yr economi greadigol.”