Prifysgol Caerdydd a Panalpina yn lansio Canolfan Ymchwil newydd
13 Hydref 2016
Mae partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Panalpina – un o gwmnïau mwyaf blaenllaw y byd ar gyfer cynnig atebion yn y gadwyn cyflenwi – wedi cael ei gryfhau yn sgîl lansio Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Logisteg newydd.
Mae'r Ganolfan, sy'n rhan o Ysgol Busnes Caerdydd, wedi'i hariannu'n rhannol gan Panalpina.
Bydd yn gwneud gwaith ymchwil o'r radd flaenaf i feysydd gweithgynhyrchu gwasgaredig, argraffu 3D, yr economi gylchol, ac effaith gweithgynhyrchu digidol ar gadwyni cyflenwi byd-eang.
Yr Athro Aris Syntetos, Cadeirydd Ymchwil Gweithgynhyrchu a Logisteg Panalpina, fydd pennaeth y Ganolfan newydd.
Yn ddiweddar, cafodd grant ymchwil £500,000 gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) – prif asiantaeth y DU ar gyfer ariannu gwaith ymchwil mewn peirianneg a'r gwyddorau ffisegol.
Dyfarnwyd y grant i'r Athro Syntetos i gefnogi gwaith ymchwil y ganolfan i rwydweithiau ailweithgynhyrchu cynaliadwy a rhai cylchol. Bydd y grant hefyd yn galluogi'r Ysgol a Panalpina i gynnal rhagor o waith ymchwil am yr economi gylchol, lle caiff logisteg a gwasanaethau gweithgynhyrchu yn y gadwyn gyflenwi eu cyfuno mwy a mwy.
"Mae'r bartneriaeth â Panalpina a'r amryw brosiectau sydd bellach wedi eu cyfuno yn y ganolfan ymchwil yn galluogi ein myfyrwyr i weithio ar broblemau go iawn ym myd diwydiant, gan sicrhau bod ein gwaith ymchwil yn dal i fod yn berthnasol i gwmnïau, a bod atebion masnachol yn deillio o'n gwaith," esboniodd yr Athro Syntetos.
"Mae Panalpina wedi recriwtio llawer o'n myfyrwyr er mwyn rhoi eu syniadau ar waith. Mae graddedigion Caerdydd bellach yn gweithio mewn lleoliadau megis Panama, Dubai a Llundain, ac mae'n wych gweld bod ein gwaith ymchwil yn cael effaith ledled y byd."
Ychwanegodd Mike Wilson, pennaeth byd-eang Logisteg yn Panalpina: "Drwy weithio gydag Ysgol Busnes Caerdydd dros y pedair blynedd ddiwethaf, rydym wedi gallu cydweithio i nodi tueddiadau'r dyfodol yn y gadwyn gyflenwi, a datblygu ein busnes i wynebu'r amgylchedd newidiol hwn. Wrth edrych ymlaen, bydd canfyddiadau'r ganolfan ymchwil yn galluogi Panalpina i ddylunio strategaethau gweithgynhyrchu a chadwyn gyflenwi sy'n ystyried technolegau newydd a rhagolygon marco-economaidd ar gyfer ein cwsmeriaid."
Mae Panalpina'n eiriolwr dros yr economi gylchol, ac yn credu mai gwella dulliau rheoli ac ehangu cylchoedd bywyd cynhyrchion yw'r dyfodol – o gael gafael ar ddeunydd yn y lle cyntaf, hyd at y cam gwaredu. Er mwyn sbarduno arloesedd yn y maes hwn, mae Ysgol Busnes Caerdydd a Panalpina wedi cydweithio ar amrywiaeth o brosiectau ymchwil. Mae hyn yn cynnwys lansio eu rhaglen rhagolwg stocrestr, 'Demand-Driven Inventory Dispositioning' (D2ID).