Mynd i'r afael â chasineb ar-lein
12 Hydref 2016
Mae tîm o arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd wedi ymuno â Llywodraeth Cymru i ddatblygu tri chanllaw ar-lein newydd i helpu i atal y llif cynyddol o gasineb ar-lein.
Mae’r Athro Matthew Williams o Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd a Dr Pete Burnup o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg y Brifysgol wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu tri chanllaw dwyieithog newydd i gasineb ar-lein wedi'u targedu at bobl ifanc, oedolion ac ymarferwyr.
Mae pob un o'r canllawiau wedi cael ei lywio gan ymchwil i droseddau casineb a chasineb ar-lein a wnaed ym Mhrifysgol Caerdydd dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae'r canllawiau ar-lein newydd yn rhoi gwybodaeth am natur a phatrymau casineb ar-lein, y cyfreithiau sy'n cael eu defnyddio i gosbi’r rhai sy’n tramgwyddo, effeithiau casineb ar-lein ar ddioddefwyr, ffyrdd effeithiol i’r cyhoedd ymateb yn ei erbyn, a sut mae rhoi gwybod i’r heddlu.
“Y Rhyngrwyd yw’r ffin newydd ym maes troseddu," yn ôl yr Athro Matthew Williams, Cyfarwyddwr Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.
"Troseddu ar-lein yw un o’r ychydig ffurfiau ar droseddu lle mae cynnydd bob blwyddyn, tra mae’r rhan fwyaf o droseddau eraill yn gostwng.
"Mae ein hymchwil i ymateb y cyfryngau cymdeithasol i lofruddiaeth Lee Rigby yn 2013 yn dangos sut mae pobl yn mynd at y cyfryngau cymdeithasol i ledaenu teimladau o gasineb yn dilyn digwyddiadau. Gwelwyd ymateb ar-lein tebyg yn dilyn y refferendwm ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd."
Arweiniodd yr Athro Williams Brosiect Troseddau Casineb Cymru Gyfan (2011-2013) a fu’n sail i Fframwaith ar gyfer Gweithredu ar Daclo Troseddau Casineb Llywodraeth Cymru. Y prosiect yw’r astudiaeth fwyaf o droseddau casineb yn y DU o hyd, a chafodd werth £570,000 o Gronfa’r Loteri Fawr.
Yn dilyn yr astudiaeth hon, enillodd tîm o Brifysgol Caerdydd grant gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Google i astudio casineb ar-lein.
Mae’r Athro Williams a Dr Pete Burnup hefyd wedi sicrhau grant o fri gan Adran Cyfiawnder UDA i astudio casineb ar-lein yn Los Angeles.
Ychwanega Dr Burnap: "Bob 60 eiliad, mae bron i 300 mil o sylwadau’n cael eu rhoi ar Facebook ledled y byd. Yn y DU yn unig, mae 30 miliwn o negeseuon trydar yn cael eu gwneud bob dydd.
"Mae casglu a dadansoddi’r data hyn yn ein hastudiaethau o gasineb ar-lein yn gofyn am gyfrifiadura sy’n perfformio’n uchel ac algorithmau dysgu peiriannol soffistigedig er mwyn adnabod casineb ar-lein ar raddfa fawr."
"Wrth ddefnyddio technoleg i nodi casineb ar-lein, gall ymarferwyr bellach dargedu mentrau i leihau niwed yn well, at y rhai sydd fwyaf mewn angen," ychwanegodd.
Mae Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data Prifysgol Caerdydd Data a fydd yng Ngwreichionen Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol newydd y Brifysgol (SPARK).
Mae'r Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol yn dod â gwyddonwyr cymdeithasol, cyfrifiadurol, gwleidyddol, iechyd, ystadegol a mathemategol ynghyd i astudio agweddau methodolegol, damcaniaethol, empirig a thechnegol ar Fathau Newydd o Ddata mewn cyd-destunau cymdeithasol a pholisi.
Mae’r tri chanllaw ar-lein wedi cael eu lansio yn ystod yr wythnos hon, sef Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, o’r 10fed i’r 17eg o Hydref.