50 mlynedd ers Aberfan
11 Hydref 2016
Ar 21 Hydref 1966, llithrodd tomen wastraff enfawr ar bentref glofaol Aberfan ger Merthyr Tudful. Claddwyd Ysgol Gynradd Pantglas yn y dyffryn islaw gan ladd 116 o blant a 28 o oedolion. Newidiodd y digwyddiad trasig hwn fywydau llawer o bobl, yn ogystal â'r ffyrdd y rheolwyd glofeydd a chwareli wedi hynny.
Hanner canrif yn ddiweddarach, bydd yr Athro Syr Mansel Aylward, un o'r meddygon cyntaf i gyrraedd ar ôl y drychineb, yn dod i Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd ar gyfer cyfres o sgyrsiau. Eu nod fydd helpu meddygon a myfyrwyr meddygol yng Nghymru i ddeall gwir effaith digwyddiad o'r fath ar y cymunedau cyfagos.
Bydd y sgyrsiau yn trin a thrafod effaith trychinebau o'r fath ar gymunedau ar y pryd ac yn y tymor hir. Caiff sylw ei roi hefyd i bwysigrwydd diwydiant i iechyd a lles cymunedau ledled y DU.
Bydd yr Athro Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn siarad am ei brofiad o gyrraedd yr ysgol a'r effaith a gafodd hyn arno drwy gydol ei yrfa.
Yr Athro Ewan Macdonald oedd meddyg y pyllau glo yn Swydd Efrog, a bydd yntau hefyd yn disgrifio sut mae trychinebau yn effeithio ar fywydau'r gweithwyr a'u teuluoedd.
Bydd yr Athro Syr Anthony Newman Taylor yn tywys y gynulleidfa ar daith sy'n edrych ar ddatblygiad meddygaeth ddiwydiannol, ar ôl bod yn gadeirydd y Cyngor Cynghori ar Anafiadau Diwydiannol rhwng 1996 a 2008.
Bydd yr Athro y Fonesig Carol Black yn trafod beth all y proffesiwn meddygol modern ei wneud i wella iechyd a lles gweithwyr.
Cynhelir 50 mlynedd ers Aberfan ddydd Mawrth 25 Hydref 2016. Caiff ei gynnal yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd rhwng 4 a 6 o'r gloch. Mae tocynnau'n rhad ac am ddim, ond rhaid cadw lle ymlaen llaw yma.