Hyfforddiant nyrsio a fydd yn trawsnewid gofal
11 Hydref 2016
Mae Prifysgol Caerdydd yn ymuno â GIG Cymru i gynnig hyfforddiant nyrsio arbenigol a allai achub bywydau yn Namibia – hyfforddiant nad yw ar gael ar hyn o bryd mewn llawer o ardaloedd yn ne cyfandir Affrica.
Mae'r cynllun i roi hyfforddiant gofal amdriniaethol i 24 o nyrsys – mewn cydweithrediad â Phrifysgol Namibia (UNAM) – yn ceisio trawsnewid gofal i gleifion cyn, yn ystod, ac ar ôl llawdriniaeth.
Bydd arbenigwyr meddygol a nyrsio, dan arweiniad yr Athro Judith Hall a Dr Brian Jenkins o Brifysgol Caerdydd, yn rhoi darlithoedd ac yn cynnal gweithdai rhwng 25 a 27 Hydref ym Mhrifddinas Namibia, Windhoek.
Mae'r hyfforddiant wedi'i drefnu gan Brosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd – prosiect ymgysylltu sy'n gweithio gydag UNAM a Llywodraeth Cymru ar amrywiaeth o weithgareddau sy'n cynnwys addysg, iechyd, cyfathrebu a gwyddoniaeth.
Gofynnodd Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Namibia, yr Anrhydeddus Julieta Kavetuna, i'r Athro Hall drefnu'r hyfforddiant nyrsio arbenigol.
Cynhelir yr hyfforddiant, sy'n cynnwys staff arbenigol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, dros gyfnod o wythnos, ac fel rhan o'r wythnos mae prifysgolion ledled y DU yn cael eu hannog i ddathlu eu gwaith rhyngwladol fel rhan o'r ymgyrch #WeAreInternational.
Dywedodd yr Athro Hall, sydd hefyd yn Athro Anaestheteg, Gofal Dwys a Meddygaeth Poen ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rwy'n falch iawn bod gan Brosiect Phoenix gyfle i hwyluso hyfforddiant nyrsio arloesol yn Namibia ochr yn ochr â GIG Cymru ac UNAM.
"Dyma'r tro cyntaf y mae Namibia wedi cael hyfforddiant nyrsio arbenigol y tu allan i faes bydwreigiaeth, felly bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r gofal y mae cleifion yn ei gael. Yn wir, gobeithiaf y bydd y prosiect yn drawsnewidiol.
"Os edrychwch chi ym mannau eraill yn ne cyfandir Affrica, dim ond yn Ne Affrica y gallwch gael y math yma o hyfforddiant mewn gwirionedd."
Bydd yr hyfforddiant amdriniaethol yn cynnwys hyfforddiant mewn technegau megis rheoli poen ar ôl llawdriniaeth, dehongli canlyniadau profion gwaed, a monitro'r system anadlol, a bydd yr hyfforddiant yn rhoi hwb sylweddol i sgiliau a galluoedd proffesiynol y nyrsys.
Bydd nyrsys o ledled Namibia yn dod i'r sesiynau, a gynhelir yn yr Ysgol Feddygaeth yn UNAM ac Ysbyty Canolog Windhoek.
Meddai Dr Tony Funnell, anesthetydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd: “Mae meddygaeth lawdriniaethol peri yn rhywbeth sy’n bwysig iawn i mi yma yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a dyma oedd y prif reswm pam y gwnes i ymuno.
“Rwy’n mwynhau addysgu ac addysg, ac mae prosiect Phoenix yn gyfle gwych i gyfuno’r ddau faes.”
Ychwanegodd yr Athro Hall: "Mae'n ymwneud â gofalu am gleifion drwy'r broses lawfeddygol gyfan, o gael eu cyfeirio yn y lle cyntaf, hyd at adael yr ysbyty. Bydd yr hyfforddiant yn fuddiol i ddulliau meddygol megis llawfeddygaeth ac anaesthesia."
Mae'r staff eraill o Brifysgol Caerdydd a fydd hefyd yn teithio i Namibia ym mis Hydref i weithio ar Brosiect Phoenix yn cynnwys:
- Dr Andrew Freedman, yr Ysgol Meddygaeth – hyfforddiant ynglŷn â gweithdrefnau clinigol wrth erchwyn y gwely
- Victoria Sharley, Ymchwilydd Doethurol, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol – prosiect am esgeuluso plant
- Yr Athro Loredana Polezzi a Dr Luisa Percopo, yr Ysgol Ieithoedd Modern – prosiect ieithoedd Namibia
- Catherine Camps, y tîm Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysgu yn y Brifysgol – cynllun mentora Caerdydd-Namibia ar gyfer y Diploma mewn Addysg Uwch newydd yn UNAM.
Mae Prosiect Phoenix yn un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd, a elwir hefyd y Rhaglen Trawsnewid Cymunedau. Mae'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles, ymhlith eraill.
Ar hyn o bryd mae Prifysgol Caerdydd yn amlygu llwyddiannau ei gweithgareddau rhyngwladol fel rhan o ymgyrch sydd wedi'i chefnogi gan fwy na 100 o brifysgolion.
Mae prifysgolion ledled y DU yn cael eu hannog i ddathlu'r gwaith rhyngwladol a wnânt yn ystod Wythnos Un Byd (23-30 Hydref) ar gyfer ymgyrch #WeAreInternational.
Lansiwyd #WeAreInternational yn 2013 er mwyn helpu i sicrhau bod prifysgolion yn parhau i fod yn gymunedau amrywiol a chynhwysol sy'n agored i fyfyrwyr a staff o bedwar ban y byd.