Diagnosis anymwthiol
6 Hydref 2016
Gallai dull anymwthiol newydd sy'n darogan y tebygolrwydd o ddatblygu ffurf difrifol o glefyd yr afu sicrhau bod modd ymyrryd yn gynnar ac achub bywydau cyn y gwneir niwed na ellir ei wrthdroi.
Drwy ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd mewn astudiaeth biopsi ar yr afu, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi datblygu dull o ddarganfod a oes steatohepatitis di-alcohol (NASH) drwy ddadansoddi lipidau, asidau amino a marcwyr clinigol yn y gwaed.
NASH yw'r ffurf fwyaf eithafol o glefyd brasterog di-alcohol yr afu (NAFLD) - amrywiaeth o gyflyrau a achosir gan groniad o fraster yn yr afu. Gyda NASH, mae llid yr afu yn niweidio celloedd, ac yn gallu achosi creithiau a sirosis.
Ar hyn o bryd, dim ond drwy gynnal biopsi ar yr afu - proses ymwthiol a drud - y gellir gwneud diagnosis o NASH. Gallai'r ymchwil newydd arwain at brawf gwaed syml a allai ddarganfod NASH yn ei gyfnodau cynnar cyn i'r llid niweidio'r afu.
Meddai Dr You Zhou o Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau Prifysgol Caerdydd: "Mae llawer o bobl sydd â steatohepatitis di-alcohol sydd heb symptomau ac sydd ddim yn gwybod eu bod yn datblygu problem ddifrifol yn yr afu. O ganlyniad i hynny, ceir y diagnosis yn aml ar ôl i niwed na ellir ei wrthdroi gael ei wneud. Gallai ein dull diagnosis cyflymach a llai ymwthiol olygu bod modd cynnal prawf syml ar gyfer rhagor o bobl sydd â chlefyd brasterog di-alcohol yr afu i weld a ydynt yn datblygu steatohepatitis di-alcohol, sef ffurf mwy difrifol y clefyd."
Dylai fod y nesaf peth i ddim braster mewn afu iach. Amcangyfrifir bod gan hyd at 20% o bobl y DU gamau cynnar NAFLD gyda chrynoadau bychain o fraster yn yr afu. Tybir bod NASH yn effeithio ar hyd at 5% o boblogaeth y DU ac mae'n cael ei ystyried erbyn hyn fel un o brif achosion sirosis. Mae sirosis yn gyflwr lle mae lympiau afreolaidd yn disodli meinweoedd llyfn yr afu gan olygu bod llai o gelloedd iach i gynorthwyo ei swyddogaethau arferol. Gall hyn arwain at fethiant yr afu.
Mae gordewdra, diffyg ymarfer corff ac ymwrthedd i inswlin yn ffactorau risg cyffredin ar gyfer NAFLD a NASH. Fodd bynnag, os caiff ei ganfod a'i reoli'n gynnar, mae'n bosibl atal NAFLD ac NASH rhag gwaethygu.
Bydd rhagor o waith ymchwil yn cael ei gynnal ynghylch y dull newydd o gynnal diagnosis o NASH. Y nod fydd datblygu prawf gwaed syml y gall clinigwyr ei ddefnyddio i roi gofal meddygol effeithiol i gleifion sy'n fwy tebygol o ddatblygu'r cyflwr.
Caiff yr astudiaeth - Noninvasive Detection of Nonalcoholic Steatohepatitis Using Clinical Markers and Circulating Levels of Lipids and Metabolites - ei gyhoeddi yn Clinical Gastroenterology and Hepatology.