Edau'r Caribî
6 Hydref 2016
Bydd prosiect ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd yn ymchwilio i'r rôl sydd gan fenywod sy'n gwerthu ffabrig o ran cydbwyso hunaniaeth wleidyddol a diwylliannol y gwledydd Caribïaidd lle siaredir Ffrangeg a Chreol.
Bydd y gwaith ymchwil, Caribbean Threads, gan Dr Charlotte Hammond o'r Ysgol Ieithoedd Modern, yn ymchwilio i decstilau, llieiniau, a rhwydweithiau llafur a masnach mewn ardaloedd sy'n cynnwys Haiti a Miami.
Nod y gwaith ymchwil yw astudio sut mae menywod sy'n gwerthu ffabrig – a elwir yn pacotilleuses – yn dylanwadu ar farchnadoedd rhyngwladol drwy eu harferion economaidd a'u dulliau dylunio ar lefel leol.
Gan astudio pacotilleuses yn unigol ac fel grŵp, bydd y gwaith ymchwil yn taflu goleuni ar yr effaith y mae arferion gweithgynhyrchu rhyngwladol yn ei chael ar lefel leol, yn enwedig o ystyried y penderfyniad i hyrwyddo'r diwydiannau tecstilau a dillad fel strategaeth ddatblygu ar ôl y daeargryn yn Haiti yn 2010.
Bydd hefyd yn ymchwilio i'r arferion ffabrig amgen sy'n herio'r mathau modern o gaethwasiaeth sy'n gyffredin ymysg cwmnïau rhyngwladol wrth gynhyrchu tecstilau cotwm a dillad.
Wrth siarad am yr ymchwil, dywedodd Dr Hammond: "Yr hyn rwy'n gobeithio ei ddeall am y menywod hyn – sy'n fasnachwyr a chrefftwyr dosbarth gweithiol gan fwyaf – yw eu dylanwad ar hunaniaeth wleidyddol a diwylliannol mewn perthynas â'r gwledydd eraill o'u cwmpas yn y Caribî. Bydd yr astudiaeth hefyd yn ymchwilio i oruchafiaeth Ffrainc a'r Unol Daleithiau ym materion economaidd a diwylliannol, sy'n parhau hyd heddiw."
Fel rhan o'r ymchwil, bydd Dr Hammond yn cynnal gwaith ymchwil yn Haiti, Martinique, Guadeloupe a Miami, yn edrych drwy archifau arbenigol, ac yn cyfweld â gwniadwragedd, masnachwyr, ac aelodau o undebau tecstilau a dillad. Bydd blog ymchwil yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am yr astudiaeth, ac am waith maes Dr Hammond.
Mae Caribbean Threads yn brosiect tair blynedd sydd wedi'i ariannu gan Ymddiriedolaeth Leverhulme. Ochr yn ochr â'r gwaith ymchwil, bydd Dr Hammond yn addysgu modiwl am Ddiwylliannau Caribïaidd Ffrangeg eu Hiaith ac yn cyd-arwain un o themâu ymchwil yr Ysgol, Bodies and Borders.