Prifysgol yn ychwanegu at lwyddiannau'r ffeiriau gyrfaoedd yn Tsieina ac yn denu'r recriwtwyr gorau
5 Hydref 2016
Ymunodd Prifysgol Caerdydd â'i phartneriaid yng Nghynghrair GW4 (Caerfaddon, Bryste a Chaerwysg) i gynnal Ffeiriau Gyrfaoedd yn Beijing a Shanghai, gan ychwanegu at lwyddiannau'r digwyddiad cyntaf, a gynhaliwyd yn Shanghai y llynedd.
Llwyddodd Ffeiriau Gyrfaoedd GW4 yn Tsieina i ddenu'r cyflogwyr mwyaf blaenllaw o fyd recriwtio graddedigion, gan gynnwys sefydliadau megis Abercrombie & Fitch, Apple, IBM a Nielsen, ymhlith eraill.
Yn dilyn poblogrwydd Ffair Gyrfaoedd GW4 yn 2015, cymerodd mwy o recriwtwyr blaenllaw o ardal Asia a'r Môr Tawel ran yn nigwyddiadau eleni.
Cafwyd canmoliaeth gan gyflogwyr am nifer y graddedigion o safon a oedd yn bresennol, ac am ba mor drefnus oedd y digwyddiad.
Dywedodd Leaf Ye, Uwch Recriwtiwr, Abercrombie & Fitch (Asia): "Roedd Ffeiriau Gyrfaoedd GW4 yn cynnig cyfle arbennig o dda i Abercrombie & Fitch gysylltu â grŵp amrywiol o raddedigion â chefndiroedd academaidd o safon, ynghyd â phroffil cyflogadwyedd cryf. Fe wnaethon ni fwynhau'r profiad cofiadwy iawn hwn, a'r cyfle i gwrdd ag ymgeiswyr mor wych. Roedd fy nhîm yn gwerthfawrogi'r gwahoddiad i'r ffeiriau llwyddiannus hyn, ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn barod at gymryd rhan y flwyddyn nesaf."
Llwyddodd Ffeiriau Gyrfaoedd GW4 i gynyddu nifer y cyfleoedd oedd ar gael i raddedigion Tsieineaidd o Brifysgol Caerdydd gael swydd, yn ogystal â chyfrannu at enw da cynyddol y sefydliad ar lefel fyd-eang.
Dywedodd Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd: "Rwy'n hynod falch bod Ffeiriau Gyrfaoedd GW4 wedi cael ymateb mor gadarnhaol yn Tsieina. Mae'r ffaith i'r digwyddiadau hyn fod mor llwyddiannus yn amlygu safon uchel ein graddedigion, a gwaith caled ein cydweithwyr yn yr adran Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Rydyn ni'n edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, a gobeithiwn ddenu llawer mwy o recriwtwyr a graddedigion blaenllaw."
Helpodd Kirsty McCaig, Rheolwr Cyswllt Cyflogwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, i drefnu'r digwyddiadau. Meddai: "Yn sgîl llwyddiannau'r ffeiriau diweddar yn Shanghai a Beijing, ac o ystyried bod dwywaith nifer y graddedigion a chyflogwyr wedi mynd iddynt o gymharu â'r llynedd, braf yw gweld bod y rhaglen hon bellach yn cael ei hystyried yn ddigwyddiad 'hanfodol' yn nyddiaduron recriwtwyr graddedigion blaenllaw yn Tsieina."
Cynhaliwyd y ffeiriau fel rhan o bartneriaeth gyrfaoedd Cynghrair GW4, sy'n dod â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerfaddon, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Caerwysg ynghyd. Gan fod Ffeiriau Gyrfaoedd GW4 yn Tsieina yn gynyddol boblogaidd, rydym yn paratoi i allu croesawu mwy fyth o arddangoswyr a graddedigion i'r digwyddiad y flwyddyn nesaf.