Wythnos Diogelwch 'fwy a gwell'
4 Hydref 2016
Cynllun newydd i annog cerddwyr cŵn i roi gwybod am droseddau yn cael ei lansio yn ystod wythnos o weithgareddau sy'n ceisio gwneud pobl yn fwy diogel yn eu cymunedau.
Mae'r wythnos diogelwch, a drefnir ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd a Gweithredu Cymunedol Grangetown, yn dychwelyd i strydoedd Grangetown yng Nghaerdydd yn dilyn ei llwyddiant y llynedd.
Cynhelir yr wythnos rhwng 10 a 14 Hydref ac mae'n cynnwys cyngor ymarferol ac arddangosfeydd sy'n ymwneud â themâu fel diogelwch tân, diogelwch yn y cartref a chymorth cyntaf.
Mae'r gweithgareddau'n cynnwys lansio 'Pawennau ar Batrôl' Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sy'n gwahodd cerddwyr cŵn i roi gwybod am droseddau pan maent yn mynd â'u cŵn am dro.
Mae'r Wythnos Diogelwch yn rhan o brosiect Porth Cymunedol y Brifysgol, sy'n meithrin partneriaeth hirdymor gyda thrigolion Grangetown er mwyn gwneud yr ardal yn lle gwell byth i fyw ynddi.
Meddai Lynne Thomas, rheolwr prosiect Porth Cymunedol: "Roedd yr Wythnos Diogelwch yn llwyddiant ysgubol y llynedd gan ei fod wedi tynnu sylw ystod eang o bobl at faterion diogelwch cymunedol pwysig.
"Cafodd ei chreu mewn ymateb uniongyrchol i syniadau gan gynrychiolwyr Grangetown sydd eisiau adeiladu ar y llwyddiant hwn ac ymgysylltu ag adran mor eang â phosibl o'r gymuned.
"Rydym wedi cael cefnogaeth wych gan Gweithredu Cymunedol Grangetown a phob un o'n partneriaid, yn enwedig y gwasanaethau brys, a hoffwn ddiolch iddynt am alluogi hyn i ddigwydd."
Gyda chefnogaeth myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Gwarchod y Gymdogaeth, bydd heddweision a swyddogion tân yn mynd o ddrws i ddrws i gynnig cyngor a chymorth ynglŷn â sut i gadw eu cartrefi yn ddiogel yn ogystal â gwneud yn siŵr bod pobl mor ddiogel â phosibl yn eu cymuned.
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymweld â nifer o ysgolion yn ystod yr wythnos, a bydd Heddlu De Cymru yn cynnal digwyddiad ymgysylltu cymunedol nos Lun gyda chymorth Gwarchod y Gymdogaeth a myfyrwyr sy'n gwirfoddoli.
Meddai Garry Davies, Pennaeth Diogelwch a Phartneriaethau Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: ''Dyma gyfle gwych unwaith eto i'n gwasanaeth gydweithio â phartneriaid er mwyn amddiffyn ac addysgu ein cymunedau i'w gwneud yn fwy diogel drwy leihau perygl.''
Mae'r gweithgareddau eraill yn cynnwys efelychydd gyrru'n ddiogel, trwsio beiciau a chyngor diogelwch, a hyfforddiant cymorth cyntaf ac ymatebwyr cyntaf.
Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn cynnwys Cyngor Caerdydd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, St John Cymru Wales, Halfords, Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd, Ymddiriedolaeth Cŵn Pen-y-bont ar Ogwr a Chartref Cŵn Caerdydd.
Meddai Ashley Lister, Ysgrifennydd Gweithredu Cymunedol Grangetown: "Ar ôl llwyddiant Wythnos Diogelwch Grangetown, mae Gweithredu Cymunedol Grangetown yn falch o weithio mewn partneriaeth â Phorth Cymunedol unwaith eto i gyflwyno'r prosiect am yr ail flwyddyn yn olynol.
"O edrych ar beth sydd gan y gwahanol sefydliadau i'w cynnig, mae'n deg dweud y bydd Wythnos Diogelwch eleni yn mynd i fod yn fwy ac yn well na'r llynedd.
"Hoffwn ddiolch i bob un o'n partneriaid gan gynnwys y gwasanaethau brys, yr awdurdod lleol, y trydydd sector a'r sector preifat am eu cefnogaeth, a diolch yn benodol i dîm y Porth Cymunedol am eu cefnogaeth a'u buddsoddiad parhaus yn Grangetown."
Porth Cymunedol yw un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol. Caiff hefyd ei alw'n rhaglen Trawsnewid Cymunedau.
Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt mewn meysydd sy’n cynnwys iechyd, addysg a lles.