Cyn-fyfyriwr PhD yn ennill cystadleuaeth traethawd mawreddog
4 Hydref 2016
Mae Lee Raye, cyn-fyfyriwr PhD diweddar ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi ennill Cystadleuaeth Traethawd William T. Stearn 2016. Cyflwynir y wobr gan y Gymdeithas dros Hanes Hanes Naturiol.
Sefydlwyd y gystadleuaeth yn 2007 er cof am y diweddar William T. Stearn, academydd ac ysgolhaig nodedig ar hanes botanegol ac ieithoedd clasurol. Cyfrannodd yn sylweddol i’w feysydd ymchwil ac i waith y Gymdeithas.
Roedd y gystadleuaeth ar agor i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, boed yn llawn amser neu’n rhan amser. Dyfarnwyd y wobr ar sail y traethawd gwreiddiol orau heb ei gyhoeddi ym maes hanes naturiol. Teitl y traethawd oedd Why was Early Modern Scotland famous for lynxes?
Yn ogystal ag ennill Gwobr Traethawd William T. Stearn 2016, a derbyn siec am £300, awgrymodd y beirniaid y dylid cyflwyno’r traethawd i olygydd Archives of Natural Historyi’w gyhoeddi.
Mae Lee newydd orffen astudio am PhD yn y Brifysgol wedi derbyn gradd Meistr israddedig gan Brifysgol Aberddawan a gradd Meistr ôl-raddedig gan Brifysgol Rhydychen. Mae gan Lee diddordeb ymchwil penodol yn y meysydd canlynol: hanes bywyd gwyllt, hanes rhywogaethau, Hanes yr Oesoedd Canol, Astudiaethau Celtaidd, Saesneg yr Oesoedd Canol a Lladin yr Oesoedd Canol.
Teitl PhD Lee oedd: The Forgotten Beasts in Medieval Britain: A Study of Extinct Fauna in Medieval Sources.
Dywed yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, am gyflawniad Lee: “Dyma newyddion gwych ac rydym yn llongyfarch Lee ar ei lwyddiant. Derbyniodd Lee ei PhD yn gynharach eleni wedi profi ei hun yn ymchwilydd ymroddedig a manwl iawn. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol.”