Hanner Marathon Caerdydd yn llwyddiant mawr
2 Hydref 2016
Mae staff a myfyrwyr wedi cymryd rhan mewn penwythnos hynod lwyddiannus o weithgareddau sy'n gysylltiedig â rhedeg, fel rhan o Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd.
Cynigiodd yr Ŵyl Redeg weithgareddau llawn hwyl i bobl o bob oedran ddydd Sadwrn, 1 Hydref, a chymerodd miloedd o redwyr ran yn yr hanner marathon ei hun drannoeth.
Roedd yr ŵyl yn cynnwys ras hwyl i deuluoedd, ras hwyl i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, rasys un filltir ar ffyrdd, a ras y masgotiaid a oedd yn cynnwys masgot y Brifysgol, Dylan y Ddraig.
Roedd nifer fawr o staff, myfyrwyr a chynfyfyrwyr ymhlith 200 o redwyr sy'n rhan o #TîmCaerdydd, neu'n chwarae rhan bwysig fel gwirfoddolwyr i gefnogi'r digwyddiad.
Bu i redwyr #TîmCaerdydd addo codi arian ar gyfer ymchwil canser neu ddementia ac ymchwil iechyd meddwl y Brifysgol.
Roedd ffisiotherapyddion o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y Brifysgol ar gael ar ôl y ras i gynnig tyliniad helpu’r rhedwyr blinedig i ymlacio.
Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Mae ein myfyrwyr a'n staff wedi bod yn rhan amlwg o Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd mewn sawl rôl, ac roeddwn i'n hynod falch o weld cymaint ohonynt yn rhedeg fel rhan o #TîmCaerdydd.
"Llongyfarchiadau i'r holl redwyr a'r nifer fawr o wirfoddolwyr a roddodd o'u hamser i sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiannus.
"Rydw i wrth fy modd bod y Brifysgol yn rhan mor fawr o'r digwyddiad. Mae'n bwysig ein bod ni, fel prif ddarparwr hyfforddiant meddygol a gofal iechyd yng Nghymru, yn hyrwyddo'r buddiannau sy'n gysylltiedig â byw'n iach, yn enwedig yn ein cymunedau ein hunain."
Mae partneriaeth y Brifysgol gyda Hanner Marathon Caerdydd yn ategu'r gwaith yr ydym yn ei wneud ar gyfer Hanner Marathon y Byd IAAF a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn gynharach eleni. Bryd hynny, cafodd miloedd o redwyr y cyfle i gystadlu ochr yn ochr â 200 o athletwyr o'r safon uchaf, gan gynnwys y pencampwr Olympaidd, Mo Farah.