Dylan y Ddraig allan o wynt
1 Hydref 2016
Rhedodd ein masgot poblogaidd, Dylan y Ddraig, allan o wynt mewn ras arbennig fel rhan o Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd.
Roedd Dylan y tu ôl i redwyr eraill ras y masgotiaid, a'i dân wedi diffodd yn llwyr.
Cynhelir penwythnos o weithgareddau rhedeg yn y ddinas fel rhan o Hanner Marathon Caerdydd, gan gynnwys Gŵyl Redeg a oedd yn cynnwys ras y masgotiaid, ras hwyl i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, a ras hwyl i deuluoedd.
Ras 2.4km o gwmpas y Ganolfan Ddinesig, Gerddi Alexandra a Ffordd y Gogledd oedd ras hwyl y myfyrwyr. Yn ogystal a'r myfyrwyr, cymerodd Dylan rhan hefyd.
Cynhelir yr hanner marathon ei hun drannoeth, ddydd Sul 2 Hydref, gyda nifer fawr o staff a myfyrwyr naill ai'n rhedeg fel rhan o #TîmCaerdydd y Brifysgol, neu'n gwirfoddoli i gefnogi'r digwyddiad.
Mae rhedwyr #TîmCaerdydd wedi addo codi arian ar gyfer ymchwil canser neu ddementia ac ymchwil iechyd meddwl y Brifysgol.
Yn y cyfamser, bydd ffisiotherapyddion o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y Brifysgol ar gael ar ôl y ras i gynnig tyliniad i helpu’r redwyr blinedig i ymlacio.