Rhowch y blaned yn gyntaf, meddai sylfaenydd JoJo Maman Bébé
3 Hydref 2016
Gall arloeswyr roi'r blaned o flaen elw, yn ôl perchennog y cwmni blaenllaw ar gyfer mamau a babanod, JoJo Maman Bébé.
Mae Laura Tenison MBE yn credu bod troi syniadau yn gynnyrch newydd yn mynd law yn llaw â rhedeg busnes moesegol.
Bydd sylfaenydd y cwmni o Gasnewydd yn traddodi darlith gyntaf 'Cartref Arloesedd' Prifysgol Caerdydd mis nesaf (17 Tachwedd).
Bydd Ms Tenison yn dweud wrth y gynulleidfa gyhoeddus sut y dylai busnes fod yn rym er gwell lle caiff llwyddiant ei fesur 'nid yn unig ar sail yr arian a gaiff ei wneud, ond hefyd drwy eich cyfraniad at gymdeithas yn gyffredinol.'
Mae gan JoJo Maman Bébé 75 o siopau ledled y byd a throsiant o £55m, ond arloesedd moesegol yw hanfod y busnes yn ôl Ms Tenison.
"Mae popeth a wnawn yn seiliedig ar ddod o hyd i ateb synhwyrol i broblem gyffredin, bod yn ddigon effro i'w werthu'n gyflym ac yn effeithlon, yn ogystal â bod yn ddigon cadarn i aros am y cyfle cywir os ydym ychydig yn rhy gynnar.
"Arloesedd yw hanfod y busnes. Roedd gennym wefan ymhell cyn i Mothercare gael un, ac rydym wedi dyfeisio a chynhyrchu popeth gan gynnwys manylion dylunio dillad babanod a'n cynnyrch mamolaeth a nyrsio arbenigol."
Cafodd Ms Tenison, sy'n Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Caerdydd, ei henwi'n un o Wynebau Economi Ffyniannus Grant Thornton yn ddiweddar.
Mae'n fam i ddau o blant ac fe greodd ei busnes gydag un peiriant gwnïo mewn gweithdy gwaith coed segur ger Pont-y-pŵl ym 1993.
Yn ystod y ddarlith, bydd Ms Tenison yn egluro pam mae JoJo Maman Bébé yn gwmni 'B Corp' ardystiedig - sy'n defnyddio pŵer busnes i ddatrys problemau cymdeithasol ac amgylcheddol.
"Mae gennym gôd ymddygiad llym wrth redeg y busnes, ac mae hynny ynddo'i hun yn gam arloesol.
"Mae defnyddwyr eisiau prynu gan gwmnïau sydd â safonau moesegol parod, ac mae gweithwyr eisiau gweithio iddyn nhw."
Adeiladodd Laura Tenison ei busnes gyda chymorth benthyciad o £2,000, a hynny ar ôl cael ei gwrthod gan fanciau'r Stryd Fawr.
Darlith y 'Cartref Arloesedd' yw'r gyntaf mewn cyfres achlysurol o sgyrsiau ym Mhrifysgol Caerdydd lle gwahoddir arloeswyr blaenllaw i rannu eu profiadau â myfyrwyr, arweinwyr busnes a'r cyhoedd.
Cynhelir y digwyddiad yn Ysgol Busnes Caerdydd, sydd wedi ymrwymo i strategaeth Gwerth Cyhoeddus uchelgeisiol newydd a fydd yn sicrhau gwelliannau cymdeithasol ochr yn ochr â gwelliannau economaidd.
I gael tocynnau ar gyfer y ddarlith, ewch i'n tudalen digwyddiadau.