Pianydd o fri yn perfformio ym Mhrifysgol Caerdydd
30 Medi 2016
Bydd y pianydd nodedig Malcolm Bilson, un o arloeswyr y mudiad perfformio hanesyddol, yn perfformio ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Mawrth 4 Hydref 2016.
Bydd y gyngerdd, fydd yn lansio Cyfres y Cyngherddau 2016/17 yr Ysgol Cerddoriaeth, yn cynnwys perfformiadau o waith Mozart, Beethoven a CPE Bach.
Cyn y gyngerdd, cynhelir symposiwm rhyngwladol yn yr Ysgol Cerddoriaeth ar 3-4 Hydref am ymarfer perfformiadau piano hanesyddol, a bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn dod o amrywiaeth o brifysgolion gan gynnwys Cornell, Brown, a Berkeley.
Yr Athro Kenneth Hamilton, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth, fydd yn agor y symposiwm, a bydd yn cynnwys cyflwyniadau am soniarusrwydd a pheroriaeth y piano, pianos hanesyddol, Glenn Gould, Liberace, a harmonica gwydr.
Am 4.30pm ar 4 Hydref yn yr Ysgol Cerddoriaeth, ceir darlith gyhoeddus gan Malcolm Bilson am 'Recordiadau Hanesyddol o'u cymharu â Thestunau Gwreiddiol'. Bydd croeso i bawb. Daw ei berfformiad fortepiano â'r symposiwm i ben nes ymlaen y diwrnod hwnnw am 7pm. Cewch ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i brynu tocynnau ar gyfer y gyngerdd, ar wefan Cyfres y Cyngherddau.
Mae Malcolm Bilson wedi bod yn flaenllaw yn y mudiad offerynnau hanesyddol ers dros deng mlynedd ar hugain, ac mae wedi chwarae rôl bwysig o ran ailgyflwyno'r fortepiano i'r llwyfan a chreu recordiadau newydd o'r casgliad 'prif ffrwd'.
Yn ogystal â dilyn gyrfa hir fel unawdydd a chwaraewr siambr, mae Malcom wedi bod ar daith gyda cherddorfa yr English Baroque Soloists a John Eliot Gardiner, yr Academi Gerddoriaeth Hynafol gyda Christopher Hogwood, Concerto Köln, yn ogystal â cherddorfeydd cynnar a modern a eraill o amgylch y byd.