Ewch i’r prif gynnwys

Llafur a Lloegr

29 Medi 2016

St George and Union Flags

Mae cynadleddwyr yng nghynhadledd y Blaid Lafur wedi clywed am sut mae'r blaid yn ei chael hi'n anodd addasu i'r twf mewn hunaniaeth wleidyddol Seisnig.

Daeth yr honiad gan ymchwilwyr o brifysgolion Caerdydd a Chaeredin yn sgîl data sy'n dangos dicter sylweddol, a hynny ymhlith pobl sy'n pleidleisio Llafur hefyd, ynglŷn â'r ffordd y caiff Lloegr ei thrin o fewn y Deyrnas Unedig.

Cafodd y canfyddiadau, a gymerwyd o'r arolwg Dyfodol Lloegr diweddaraf, eu cyflwyno mewn cyfarfod ymylol yng Nghynhadledd Flynyddol y Blaid Lafur yn Lerpwl ar ddydd Mawrth 27 Medi.

Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn cyd-fynd â chanfyddiadau arolygon blaenorol, ac yn dangos bod yna chwerwedd o hyd ynglŷn â'r buddiannau canfyddedig y mae gwledydd eraill y DU – yn enwedig yr Alban – yn eu cael drwy fod yn rhan o'r Undeb.

Er gwaethaf yr anfodlonrwydd hyn â'r sefyllfa bresennol, nid oes cytundeb ynglŷn â'r ffordd orau o gryfhau llais Lloegr o fewn y DU, er, y system fwyaf poblogaidd ymhlith etholwyr yn ôl pob golwg yw'r system 'EVEL' (English Votes for English Laws).

Canfu'r arolwg hefyd mai creu llywodraethau rhanbarthol o fewn Lloegr – syniad y mae rhai o fewn y Blaid Lafur wedi'i hyrwyddo – yw'r dewis lleiaf poblogaidd bob tro, a hynny ymhlith cefnogwyr Llafur hefyd, hyd yn oed.

Mae'r arolwg, dim ond tri mis ar ôl y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn codi rhagor o gwestiynau am ddyfodol y DU, ar ôl i ganlyniad y refferendwm ddangos bod yna wahanol agweddau ynglŷn â sut y dylid llywodraethu'r Deyrnas Unedig.

Dywedodd yr Athro Roger Scully, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd: "Mae'r Blaid Lafur yn cael trafferth dod i delerau â Seisnigrwydd. Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod hunaniaeth wleidyddol Seisnig ei natur bellach yn gyffredin ymhlith agweddau gwleidyddol yn Lloegr, ac nad yw'r anfodlonrwydd â'r ffordd y mae Lloegr yn cael ei thrin o fewn y DU am ddiflannu'n fuan.“

“Rydym eisoes wedi gweld sut mae pryderon ynghylch perthynas Prydain ag Ewrop wedi arwain at bleidlais dros adael yr UE. Yr her i'r Blaid Lafur yw meddwl am ymateb cadarn a chymhellgar i faterion sy'n ymwneud â Lloegr a Seisnigrwydd, er mwyn ymgysylltu â'u cefnogwyr craidd yn ogystal â phleidleiswyr yn gyffredinol."

Yr Athro Roger Scully Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd

Cynhaliwyd Arolwg Dyfodol Lloegr 2016 rhwng 10 a 21 Mehefin 2016, a maint y sampl oedd 5103.  Mae'r prosiect wedi'i arwain gan yr Athro Roger Scully a'r Athro Richard Wyn Jones (Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd) a'r Athro Alisa Henderson a'r Athro Charlie Jeffery (Prifysgol Caeredin).