Paneli sydd â dynion yn unig
29 Medi 2016
Mae camau breision wedi'u cymryd o ran hawliau cyfartal yn ôl pob golwg, ond a ydym yn agosáu at gyflawni amrywiaeth a chydraddoldeb mewn gwirionedd?
Mae ymchwil newydd gan yr Athro Marysia Zalewski o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn International Feminist Journal of Politics, yn trin a thrafod gwahaniaethu endemig drwy edrych ar y ffenomena gyffredin o gael paneli sydd â dynion yn unig arnynt.
Wrth ddisgrifio sut mae atebion arwynebol i'r broblem o baneli sydd â dynion yn unig, megis ychwanegu rhywun i gynrychioli 'lleiafrifol' i'r panel funud olaf, yn creu camargraff o amrywiaeth, mae'r Athro Zalewski yn mynd i'r afael â'r cwestiwn o sut gallwn dorri cylch gwahaniaethu?
Yn ei herthygl, mae'r Athro Zalewski yn cynnig bod angen trawsnewid y cydbwysedd rhwng y rhywiau sy'n sail ar gyfer ein harferion sefydliadol.
Mae hi'n nodi bod nifer o fesurau ar waith, megis archwiliadau cyflogau a pholisïau gorfodol o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae'n dadlau bod yr arferion cydraddoldeb sefydliadol hyn yn tueddu i guddio dyfnder y broblem, a hyd yn oed ei gwaethygu, gan nad oes dim ar ôl i gwyno yn ei gylch yn ôl pob golwg.
Mae'r erthygl, #AllMalePanels … but … but … but … ar gael i'w darllen yma.