Siopwyr yn Lloegr yn cefnu ar fagiau plastig
29 Medi 2016
Yn ôl ymchwil newydd, mae tua 90% o bobl yn Lloegr yn mynd â'u bagiau eu hunain gyda nhw wrth siopa am fwyd o ganlyniad i godi tâl am fagiau plastig.
70% oedd yn gwneud hynny cyn cyflwyno'r tâl am fagiau plastig, ac ni chafodd oed, rhyw nag incwm eu hystyried yn rhan o'r ymchwil.
Ar ben hynny, mae'r ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod llai nag 1 o bob 15 o siopwyr (7%) yn prynu bagiau defnydd un-tro wrth y til erbyn hyn, o gymharu ag 1 o bob 4 cyn cyflwyno'r tâl.
Yn ôl yr ymchwilwyr, dangosodd yr astudiaeth fod cyflwyno'r tâl wedi gwneud i siopwyr aros a meddwl a oes gwir angen defnyddio bagiau plastig defnydd un-tro pan maent yn siopa.
Daw'r canlyniadau hyn o'r astudiaeth gyntaf erioed ynghylch agweddau ac ymddygiad pobl Lloegr ers cyflwyno'r tâl am fagiau plastig defnydd un-tro am y tro cyntaf bron flwyddyn yn ôl ar 5 Hydref 2015
Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) sydd wedi ariannu'r astudiaeth, a chafodd ei chynnal gan ymchwilwyr yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, ochr yn ochr ag IPSOS Mori. Roedd yr astudiaeth yn gyfuniad o arolwg hydredol, dyddiadur hydredol, cyfweliadau ac arsylwadau mewn wyth archfarchnad.
Dangosodd y canlyniadau hefyd fod y gefnogaeth o blaid codi tâl am fagiau plastig wedi cynyddu o 51% i 62% ers ei gyflwyno, yn ogystal â chynnydd yn y gefnogaeth o blaid taliadau posibl eraill er mwyn lleihau gwastraff, fel codi tâl am boteli dŵr plastig.
Meddai'r Athro Wouter Poortinga, a arweiniodd yr ymchwil: "Ar y cyfan, mae ein hymchwil wedi dangos bod codi tâl am fagiau plastig yn Lloegr wedi cael effaith arwyddocaol a chadarnhaol ar agweddau ac ymddygiad pobl, a'i fod wedi llwyddo i leihau nifer y bobl sy'n defnyddio bagiau plastig"
"Rydym wedi gweld bod y tâl wedi cynyddu mewn poblogrwydd yn Lloegr ers ei gyflwyno, a'i fod hefyd wedi newid agweddau at bolisïau gwastraff."
"Mae hyn yn awgrymu y gellid gweithredu polisïau eraill tebyg yn llwyddiannus, fel cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer poteli plastig neu godi tâl am gwpanau coffi defnydd un-tro."
Dangosodd canlyniadau'r astudiaeth, a gyflwynwyd mewn digwyddiad yn Llundain heddiw (29 Medi), y bu cynnydd sylweddol hefyd yn nifer y bobl sy'n mynd â'u bagiau eu hunain i siopau ar wahân i archfarchnadoedd. Er enghraifft, dangosodd y canlyniadau fod 1 o bob 2 erbyn hyn yn mynd â'u bagiau eu hunain wrth siopa am ddillad a chynhyrchion gofal iechyd, o'i gymharu â dim ond 1 o bob 10 cyn cyflwyno'r tâl am fagiau plastig.
Roedd yr astudiaeth yn cynnwys tair rhan ar wahân, gan gynnwys arolwg hydredol o dros 3,000 o bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban a holwyd fis cyn cyflwyno'r tâl yn ogystal â mis a chwe mis ar ôl ei gyflwyno.
Cynhaliodd yr ymchwilwyr astudiaeth hydredol hefyd ar ffurf dyddiadur-cyfweliad lle cafodd dyddiaduron eu llenwi gan 50 o'r rhai a gymerodd ran, cyn cynnal cyfweliadau cyn, ac ar ôl, cyflwyno'r tâl.
Roedd rhan olaf yr astudiaeth yn cynnwys arsylwadau o siopwyr wrth iddynt adael archfarchnadoedd yng Nghaerdydd a Bryste. Unwaith eto, cynhaliwyd y rhain cyn, ac ar ôl, cyflwyno'r tâl.
Meddai Andy Cummins o Surfers against Sewage: "Mae'r astudiaeth hon yn garreg filltir bwysig arall sy'n amlygu llwyddiant diamheuol y tâl am fagiau plastig gan fod biliynau yn llai o fagiau plastig yn cael eu rhoi i bobl mewn archfarchnadoedd yn Lloegr.
"Mae'r astudiaeth hon yn dangos pa mor gyflym y mae cyflwyno tâl am fagiau wedi newid ymddygiad a gwella agwedd y cyhoedd tuag at ddefnyddio bagiau defnydd un-tro. Ar ddiwedd yr adroddiad, ceir neges bwysig ar gyfer byd llywodraeth a diwydiant sy'n cadarnhau y byddai'r cyhoedd yn agored i ragor o gamau economaidd i geisio lleihau sbwriel, megis system dychwelyd blaendaliadau, i wneud yn siŵr bod poteli a chaniau'n aros yn yr economi ailgylchu yn lle niweidio'r amgylchedd."