Y DU yn llusgo ar ôl Ewrop o ran annog pobl hŷn i ddechrau a pharhau i seiclo
27 Medi 2016
Gallai seiclo chwarae rhan sylweddol o ran gwella iechyd a lles poblogaeth hŷn y DU, ond mae'r DU yn llusgo ar ôl gwledydd Ewropeaidd eraill.
Dyma un o ganfyddiadau astudiaeth dair blynedd yr oedd Prifysgol Caerdydd yn rhan ohoni, a aeth ati i ymchwilio i sut brofiad mae pobl hŷn yn y DU yn ei gael wrth seiclo, a sut mae hyn yn effeithio ar eu hannibyniaeth, iechyd a lles.
Roedd yr astudiaeth cycle BOOM yn cynnwys 240 o bobl ledled ardaloedd Rhydychen, Bryste, Reading a Chaerdydd. Roedd hyn yn cynnwys pobl nad ydynt yn seiclo, pobl sy'n seiclo ar hyn o bryd, a grŵp o bobl hŷn a oedd am ailddechrau seiclo ar ôl cyfnod heb ei wneud. Cymerodd y bobl hyn ran mewn prawf 'seiclo a lles' dros gyfnod o wyth wythnos i weld sut brofiad cawsant, ac i fesur yr effaith ar eu hiechyd meddwl a chorfforol.
Roedd canlyniadau'r prawf seiclo a lles yn dangos bod gan seiclo botensial i wella iechyd meddyliol a chorfforol ymysg pobl hŷn, fodd bynnag, dywedodd y rhai a gymerodd ran fod nifer o ffactorau, gan gynnwys seilwaith gwael ac anghefnogol, ac ofn anafiadau gan gerbydau eraill, yn cael effaith negyddol ar eu profiad o seiclo.
Dywedodd Dr Justin Spinney o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: "Mae gwaith ymchwil a gynhaliwyd yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd fel rhan o brosiect Cycle Boom yn dangos bod seiclwyr hŷn yn cael eu siomi gan amgylcheddau seiclo aneglur o ansawdd gwael sydd heb eu cysylltu. Nid yw'r amgylcheddau hyn yn ystyried galluoedd defnyddwyr hŷn, a golyga hyn fod seiclo yn hwyrach yn eu hoes yn anoddach."
Dywedodd arweinydd y prosiect, Dr Tim Jones, Darllenydd yn Ysgol yr Amgylchedd Adeiledig, Prifysgol Oxford Brookes:"Mae ein gwaith ymchwil wedi dangos bod pobl hŷn sy'n seiclo ar hyn o bryd, neu sydd wedi rhoi cynnig ar seiclo, yn cydnabod y cyfraniad cadarnhaol gall seiclo ei wneud i'w hiechyd a'u lles.
"Fodd bynnag, maent yn teimlo nad yw seilwaith y DU yn diwallu eu hanghenion, ac mae'r nifer fach sy'n seiclo ar hyn o bryd, a elwir yn "seiclwyr gwydn" gennym, yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ymdopi â'r perygl ar y ffyrdd a'r ffaith eu bod yn mynd yn llai galluog. Mae hyn yn cynnwys amseru eu teithiau er mwyn osgoi cyfnodau prysur, seiclo mewn mannau lle nad oes cerbydau, addasu beiciau, a hyd yn oed seiclo ar y palmant.
"Er bod y materion a amlygir yn berthnasol i bawb sy'n seiclo, maent yn effeithio mwy ar y grŵp sy'n heneiddio, gan fod eu galluoedd yn newid, ac mae gweithgareddau a oedd gynt yn hawdd yn dod yn fwy anodd. Mae'n rhaid i'n hymagwedd at ddylunio ein trefi a dinasoedd, ynghyd â thechnoleg seiclo, ystyried gwahanol alluoedd defnyddwyr os yw seiclo am fod yn rhan ganolog o fywyd poblogaeth sy'n heneiddio."
Caiff cyfres o argymhellion sydd wedi eu seilio ar y canfyddiadau eu cyflwyno mewn cynadleddau terfynol yn Llundain a Manceinion. Bydd hyn yn cynghori llunwyr polisïau, ac yn fwy penodol, cynllunwyr, peirianwyr, dylunwyr, hyrwyddwyr iechyd a'r diwydiant seiclo, ynglŷn â'r cyfraniad y gallent ei wneud at helpu pobl hŷn i seiclo fel rhan o agenda ar gyfer y ddinas sy'n ystyriol o bob oedran.
Ychwanegodd Dr Jones: "Mae ein hastudiaeth yn atgyfnerthu'r angen i ddinasoedd fwrw ymlaen a chreu seilwaith penodol ar gyfer seiclo ar hyd prif ffyrdd, creu parthau â therfyn cyflymder is, a chefnogi'r farchnad ar gyfer beiciau trydanol, sy'n tyfu ar hyn o bryd. Bydd ymyriadau sy'n ceisio hyrwyddo seiclo ymhlith pobl hŷn nid yn unig yn helpu pobl i heneiddio'n iach, bydd hefyd yn helpu pobl iau i seiclo ac yn mynd i'r afael â'r broblem ddifrifol o lefelau ffitrwydd isel a lefelau gordewdra sy'n cynyddu ymhlith pobl iau'r wlad."