Iwerddon, Cymru a'r Rhyfel Byd Cyntaf
22 Medi 2014
Yn ddiweddar, ym Mhrifysgol Caerdydd, cydgyfarfu ysgolheigion y dyniaethau o Gymru, Iwerddon, Lloegr, yr Alban a'r Unol Daleithiau ar gyfer cynhadledd dridiau unigryw ar 'Iwerddon, Cymru a'r Rhyfel Byd Cyntaf'.
Wedi ei drefnu gan yr Athro Katie Gramich o'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, dyma oedd y digwyddiad diweddaraf a noddwyd gan Rwydwaith Ymchwil Cymru-Iwerddon; grŵp rhyngddisgyblaethol llewyrchus o academyddion sy'n gwneud ymchwil cymharol ar Gymru fodern ac Iwerddon. Dechreuwyd y Rhwydwaith yn 2005 ac mae'n cael ei redeg ar y cyd gan yr Athro Gramich, yr Athro Claire Connolly o Goleg Prifysgol Cork, a'r Dr Paul O'Leary o Brifysgol Aberystwyth.
Un o'r cynadleddau canmlwyddiant cyntaf a gynhaliwyd i goffáu ac ail-edrych ar y Rhyfel Byd Cyntaf, archwiliodd y digwyddiad hwn yr ymatebion penodol, ac yn aml amrywiol i'r rhyfel yng Nghymru ac Iwerddon a'r naratifau hanesyddol gwahanol, atgofion ac arteffactau diwylliannol a oedd yn deillio o'r profiadau rhyfel hynny .
Cafodd y gynhadledd ei lansio gyda darlith gan y gwestai arbennig, Dr Daniel Mulhall, Llysgennad presennol Iwerddon i Brydain Fawr, a siaradodd am 'ysgrythur gudd' dau fardd rhyfel Gwyddelig a esgeuluswyd; Tom Kettle a Francis Ledwidge. Ymladdodd y ddau ohonynt a buont farw ar y Ffrynt Orllewinol. Cychwynnodd y ddarlith sgwrs ddiddorol ymhlith cynulleidfa fawr o academyddion a myfyrwyr ôl-raddedig am yr ymatebion cymhleth ac anghyson i'r rhyfel ar ran cenedlaetholwyr yn Iwerddon ac yng Nghymru.
Dros y ddau ddiwrnod canlynol, clywodd cyfranogwyr amrywiaeth o bapurau ysgogol, gan gwmpasu pynciau megis dylunio ac ystyr cofebion rhyfel, celf weledol o ryfel, profiadau gwrthwynebwyr cydwybodol, rôl y wasg a sensoriaeth yn amser rhyfel, barddoniaeth a ffuglen y cyfnod, newid rolau rhyw ac agweddau, gwrthdaro hunaniaethau cenedlaethol, a syniadau o Brydeindod.
Yn ystod dwy ddarlith gyflawn, ar yr awdur Gwyddelig a aned yn Aberpennar; Joseph Keating, gan y Dr Paul O'Leary ac ar y bardd Robert Graves, o dras Wyddelig, ond â'i deulu yn byw yn Harlech, gan y Dr Mary-Ann Constantine, datgelwyd i'r gynulleidfa realiti sut y gallai'r amgylchiadau eithafol ac effeithiau rhyfel effeithio ar newidiadau seismig mewn syniadau o hunaniaeth bersonol, genedlaethol, ac artistig. Yn ddiweddarach, dangosodd dau ddarlleniad rhyddiaith creadigol gan yr hanesydd, yr Athro Angela John, a'r nofelydd, Mari Strachan, sut mae llenorion cyfoes wedi ailedrych, ail-ddychmygu yn fyw iawn ac ail-ddehongli'r digwyddiadau o 1914-1918 a'r hyn a ddigwyddodd yn eu sgil.
Daethpwyd â'r gynhadledd i ben gan ddarlith gyfoethog ac eang gan yr Athro Syr Deian Hopkin sydd ar hyn o bryd yn ymgynghorydd arbenigol i Lywodraeth Cymru ar goffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf. Gofynnodd darlith Syr Deian y cwestiynau perthnasol: beth yn union rydyn ni'n ei goffáu yn 2014, pam yr ydym yn gwneud hynny, a beth fydd yr etifeddiaeth goffáu hon yn y dyfodol? Dadleuodd yn berswadiol na ddylai'r prosiectau digidol mawr, sy'n cael eu cynnal mewn perthynas â'r rhyfel, gael yr hawl i ddod yn syml yn 'Sioe Ffordd Hen Bethau' ar-lein o wrthrychau a thestunau hanesyddol. Yn lle hynny, dylai ysgolheigion y dyniaethau sicrhau bod y cyfoeth o ddeunydd newydd, sy'n cael ei wneud ar gael yn cael ei ddehongli mewn cyd-destun ac yn cael ei adfer yn ystyrlon ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
I gyd-fynd â'r gynhadledd, mae arddangosfa wedi cael ei churadu yn SCOLAR, Casgliadau ac Archifau Arbennig y Brifysgol, yn seiliedig yn Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol. O dan y teitl 'Cymru ac Iwerddon: Delweddau o'r Ddwy Ryfel, 1914-1918', mae'r arddangosfa hon wedi tynnu ar gasgliadau cyfoethog y Brifysgol (mewn tair iaith: y Gymraeg, y Wyddeleg, a'r Saesneg) i ddatgelu deunydd diddorol sy'n dogfennu'r Rhyfel Byd Cyntaf a Gwrthryfel y Pasg. Er bod y gynhadledd wedi dod i ben, bydd yr arddangosfa hon yn parhau drwy gydol fis Medi a Hydref ac mae'n agored i bawb.
Pennawd y ddelwedd: Dr Daniel Mulhall yn cyflwyno ei ddarlith yn y gynhadledd