Partneriaeth lwyddiannus
22 Medi 2014
Mae'r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan heddiw (dydd Llun, 22 Medi) wedi llofnodi cytundeb gyda Phrifysgol Leuven a gynlluniwyd i hybu incwm ymchwil, creu cydweithrediadau ymchwil newydd a chynnig mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr a staff i astudio a dysgu dramor.
Mae'r Cytundeb Cydweithredu yn adeiladu ar gydweithio academaidd sydd yn bodoli eisoes gyda phrifysgol fwyaf Gwlad Belg ac, yn ystod y pum mlynedd nesaf, bydd yn creu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr a'r gymuned academaidd ehangach i gael profiad o astudio ac addysgu dramor.
Wrth lofnodi'r Cytundeb newydd, dywedodd yr Athro Riordan: "Mae Caerdydd a Leuven eisoes yn mwynhau perthynas academaidd hirsefydlog.
"Mae'r cydweithio academaidd sydd yn bodoli eisoes wedi arwain at gyllid Ewropeaidd sylweddol ac ymchwil o bwys.
"Mae'r Cytundeb hwn yn cynrychioli dwy brifysgol fwyaf Ewrop, sy'n arwain y byd, yn dod at ei gilydd ac mae'n gyfle delfrydol i ffurfioli cysylltiadau sydd eisoes yn bodoli."
Wedi ei sefydlu yn 1425, Leuven yw'r brifysgol Gatholig hynaf yn y byd sydd wedi goroesi a'r brifysgol fwyaf yng Ngwlad Belg. Mae'n gyson ei safle yn y 100 o brifysgolion gorau yn y byd.
Gyda rhyw 6,800 o staff academaidd a mwy na 40,000 o fyfyrwyr, mae'n brifysgol ymchwil Ewropeaidd blaenllaw sy'n cynnig rhaglen gynhwysfawr o astudio yn yr Iseldireg a Saesneg.
Yn ogystal â'r cysylltiadau academaidd cryf, y mae'r ddwy Brifysgol yn rhannu systemau tebyg o lywodraeth ddatganoledig a hunaniaeth ddiwylliannol ac ieithyddol unigryw.
Ychwanegodd yr Athro Riordan: "Gyda ffocws cychwynnol ar wneud y gorau posibl o gyfleoedd Cyllid Ewropeaidd, mae'r Cytundeb hefyd yn rhoi cyfle i ddod â'r cysylltiadau rhyngwladol helaethaf o bob Prifysgol, gwella brand rhyngwladol ac enw da y ddau sefydliad.
"Mae hyn yn rhan o gynlluniau ehangach y Brifysgol i ffurfio cydweithredu clos â phrifysgolion rhagorol eraill i hyrwyddo ymchwil ac addysgu a gwella ein safle fel prifysgol fyd-eang."
"Fel prifysgol partner canolog newydd, mae Caerdydd yn rhannu ein huchelgeisiau rhyngwladol," medd yr Athro Danny Pieters, Is Reithor ar gyfer Rhyngwladoli yn KU Leuven.
"Dyna pam fod gan y cytundeb cydweithredu hwn botensial gwirioneddol hirdymor a bydd o fudd i addysg a chenadaethau ymchwil y ddwy brifysgol, ar lefelau sythweledol a lefelau grŵp ymchwil, ac ar gyfer staff a myfyrwyr ill dau," ychwanegodd.
Y Cytundeb yw'r cyntaf o ddau a gynlluniwyd gan y Brifysgol er mwyn gwella enw da Caerdydd fel prifysgol fyd-eang a rhoi Cymru ar y llwyfan rhyngwladol am ei hymchwil o'r radd flaenaf.
Ceir rhagor o wybodaeth am Brifysgol Leuven yn: www.kuleuven.be/english