Gwella cydraddoldeb o ran y rhywiau yn y celfyddydau
16 Medi 2014
Mae tair o adrannau'r Brifysgol wedi cael eu cydnabod am eu cynnydd wrth wella cydraddoldeb o ran y rhywiau mewn gyrfaoedd yn y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol mewn addysg uwch.
Mae Ysgol Fusnes Caerdydd, yr Ysgol Ieithoedd Modern a'r Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi cyflawni lefel Efydd ym marc siarter cydraddoldeb o ran y rhywiau yr Uned Her Cydraddoldeb – sef y cynllun gwobrau cyntaf o'i fath ar gyfer y disgyblaethau hyn.
Y lefel Efydd yw'r cam cyntaf yn y broses, sy'n dangos ymroddiad cryf i gamau gweithredu penodol a ffurfio diwylliant a fydd yn gwella cynrychioliad, cynnydd a llwyddiant staff a myfyrwyr.
Mae'r canlyniadau'n nodi diwedd rownd arbrofol o wobrau a oedd wedi addasu egwyddorion Siarter hynod lwyddiannus Athena SWAN yr Uned Her Cydraddoldeb i faterion a oedd yn wynebu staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol yn sefydliadau'r DU yn y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.
Mae'r Brifysgol wedi ymroi i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob un o'i harferion a'i gweithgareddau. Yn 2012, lansiwyd Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol i roi fframwaith clir ar gyfer ymgorffori a phrif ffrydio cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob gweithgaredd mewn ffyrdd sy'n cydymffurfio'n gyfreithiol ac yn cael eu hystyried yn arfer da cyffredin.
Dywedodd yr Athro George Boyne, Dirprwy Is-ganghellor, Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: "Mae ein llwyddiant wrth gyflawni'r lefel Efydd yn nodi ymroddiad arwyddocaol i wella cydraddoldeb o ran y rhywiau ar draws ein Prifysgol.
"Mae ein sylw ni nawr yn symud at ymgorffori ein strategaethau, a'u rhoi nhw ar waith i sicrhau ein bod ni'n cyflawni cymuned Coleg cynrychiadol a llwyddiannus, a chyflawni marc siarter cydraddoldeb o ran y rhywiau ar gyfer ein holl Ysgolion".
Dywedodd David Ruebain, prif weithredwr yr Uned Her Cydraddoldeb: "Mae'r canlyniadau'n rhoi cyfle i ddathlu gwaith caled a chyflawniadau pawb sy'n gysylltiedig â threial y marc siarter, a chanolbwyntio ar y cynnydd cadarnhaol a wneir i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau parhaol o ran y rhywiau mewn addysg uwch.
"Yn dilyn llwyddiant y treial hwn, rydym yn falch o allu datblygu marc siarter yn llawn, a fydd yn cefnogi cydraddoldeb yn y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol – disgyblaethau sydd heb gael yr un sylw â phynciau gwyddoniaeth hyd yma.
"Gobeithiwn y bydd y marc siarter cydraddoldeb o ran y rhywiau yn cael yr un effaith gadarnhaol ar gyfer y pynciau hynny ag y mae Athena SWAN wedi ei chael ar fenywod ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth.
"Rwy'n canmol gwaith yr holl gyfranogwyr hyd yn hyn ac yn edrych ymlaen at weld effaith eu gweithrediadau wrth iddyn nhw symud ymlaen i lefelau arian ac aur yn y dyfodol."
Cynhelir digwyddiad i ddathlu'r cynnydd y mae cyfranogwyr wedi'i wneud yn y treial ym mis Rhagfyr 2014. Ar hyn o bryd, mae'r Uned Her Cydraddoldeb yn cwblhau fformat siarter y dyfodol yn seiliedig ar adborth gan gyfranogwyr y treial, gyda'r bwriad o'i unioni'n agosach â siarter Athena SWAN. Bydd pob sefydliad ac adrannau'r celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol yn gallu cymryd rhan yn y marc siarter yn 2015.