Enwebu arbenigwyr biowyddorau ar gyfer gwobr BAFTA Cymru
15 Medi 2014
Mae'r cyflwynydd teledu, arbenigwr bywyd gwyllt a darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, Dr Rhys Jones, wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr BAFTA Cymru.
Mae Dr Rhys Jones ar y rhestr fer yn y categori Cyflwynydd Gorau, ar gyfer ei gyfres 'Rhys Jones' Wildlife Patrol'.
Mae Rhys wedi cyflwyno nifer o gyfresi teledu ar y BBC, gan gynnwys dwy gyfres o 'Rhys to the Rescue', 'Nature's Calendar' gan Chris Packham, a chyfrannu at 'Saving Planet Earth' gan Syr David Attenborough. Hefyd, mae wedi bod yn gyflwynydd rheolaidd yn Sioe Frenhinol Cymru gyda BBC Wales ers chwe blynedd. Fe wnaeth ei gyfres genedlaethol ddiweddaraf ar y BBC, 'Rhys Jones's Wildlife Patrol', ddenu cynulleidfa o fwy nag 12 miliwn o wylwyr ledled y DU.
Yn ystod tymor diweddaraf ei gyfres, fe wnaeth Rhys helpu i achub neidr a oedd wedi cael ei wthio ymaith o'i gynefin arferol gan dân mynydd ac ymchwilio i farwolaeth amheus dyfrgi ifanc ym Mannau Brycheiniog. Mae'r cyflwyno gwylwyr i'w waith ym Mhrifysgol Caerdydd yn rheolaidd, ac yn cynnwys cydweithwyr a myfyrwyr yr Ysgol Biowyddorau.
Wrth ddisgrifio gweithio gyda Dr Rhys Jones, dywedodd Ian Durham, cynhyrchydd 'Rhys Jones' Wildlife Patrol': "Mae'n debyg i Batman a Robin, ond heb y gwisgoedd -na'r car cŵl. Nid oes byth unrhyw adegau diflas wrth ffilmio Wildlife Patrol gyda Dr Jones - p'un ai wrth ffilmio y tu mewn i gorff neidr mymiedig 4,000 o flynyddoedd oed, neu geisio cadw'n agos at gyrch gan yr heddlu".
Rhys JonesWrth wneud sylw am ei enwebiad, dywedodd Dr Jones: "Fe wnes i ddarganfod fy mod i wedi cael fy enwebu ar gyfer gwobr BAFTA Cymru wrth ymchwilio yn yr Aifft. Roeddwn i'n hollol fud pan ddywedodd cynhyrchydd fy nghyfres, Ian Durham, wrthyf i dros y ffôn. Mae'n gymaint o anrhydedd cyrraedd y rhestr fer ac rwy'n teimlo'n wylaidd iawn. Nid oeddwn i fyth wedi breuddwydio y byddwn i mewn sefyllfa mor freintiedig"
Cynhelir 23ain Gwobrau BAFTA Cymru ddydd Sul 26 Hydref 2014 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd. Mae enwebeion eraill yng nghategori'r Cyflwynydd Gorau yn cynnwys Griff Rhys Jones yn 'A Great Welsh Adventure with Griff Rhys Jones' ac Ifor ap Glyn yn 'Pagans and Pilgrims: Britain's Holiest Places'.
Ar hyn o bryd, mae Dr Rhys Jones yn ffilmio 3edd gyfres o 'Rhys Jones' Wildlife Patrol'a fydd yn cael ei darlledu yn y gwanwyn 2015.
Mae Prifysgol Caerdydd ymhlith noddwyr Gwobrau BAFTA Cymru.