Arloeswyr yn profi ffyrdd newydd o greu gwasanaethau cyhoeddus gwell
23 Medi 2016
Cynhelir uwchgynhadledd yng Nghaerdydd ddiwedd y mis fydd yn ystyried ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol sydd wedi bodoli ers tro byd yng Nghymru a thu hwnt.
Bydd llunwyr polisïau, staff gwasanaethau cyhoeddus, arbenigwyr arloesedd a gwyddonwyr cymdeithasol yn dod ynghyd ar gyfer uwchgynhadledd arloesedd Venturefest Cymru 2016 (28 Medi).
Byddant yn trin a thrafod ffyrdd o ddatrys rhai o'r heriau mwyaf i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys ysmygu, gordewdra, gofal cymdeithasol a thai.
Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi sy'n cynnal yr uwchgynhadledd, a bydd yn cynnwys cyflwyniadau gan arbenigwyr arloesedd o Labordy Arloesedd Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Y Lab), partneriaeth newydd rhwng Caerdydd a Nesta.
Meddai Dr Adam Fletcher, Cyfarwyddwr Academaidd Y Lab: "Mae'n gwneud synnwyr bod Uwchgynhadledd Arloesedd gyntaf Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi yn canolbwyntio ar y sector cyhoeddus gan mai dyma lle mae angen gwneud y newidiadau mwyaf er mwyn gwella bywydau pobl yng Nghymru.
"Yn yr Uwchgynhadledd Arloesedd, bydd staff Y Lab ac arbenigwyr eraill yn rhoi enghreifftiau o sut gallwn gefnogi staff gwasanaethau cyhoeddus i greu syniadau newydd i fynd i'r afael â heriau parhaus, rhoi'r syniadau gorau ar waith, a'u profi."
Ychwanegodd Jess Hoare, o Y Lab, fydd yn siarad yn yr Uwchgynhadledd: "Mae arloesedd mewn gwasanaethau cyhoeddus yn fater o bwys i Gymru. Nod Y Lab yw galluogi'r rhai sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus i ddatblygu'r sgiliau a'r partneriaethau sydd eu hangen i greu modelau sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif."
Bydd yr Uwchgynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau gan arloeswyr blaenllaw yn y sector cyhoeddus, a chawn hefyd wybod am ymchwil a gynhelir ynghylch sefydlu Corff Arloesedd Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae Venturefest Cymru yn ddigwyddiad rhad ac am ddim sy'n dod ag entrepreneuriaid ac arloeswyr ynghyd i rannu gwybodaeth, rhwydweithiau a syniadau. Gael rhagor o fanylion am yr Uwchgynhadledd Arloesedd, a chofrestru ar ei gyfer, yma.