Byddai chwarter o bobl ifanc yn rhoi £1 miliwn i ffwrdd
24 Medi 2014
Beth fyddech chi'n ei wneud gydag £1 miliwn pe bae'n cael ei roi i chi heddiw? Yn rhyfeddol, mae astudiaeth newydd o Brifysgol Caerdydd wedi canfod y byddai hanner y bobl ifanc yn rhoi o leiaf y rhan fawr ohono i ffwrdd, gyda chwarter yn dweud na fyddent yn cadw dim ohono ar gyfer eu hunain.
Ac er bod rhai pobl ifanc, efallai yn ddisgwyliadwy, yn breuddwydio am geir cyflym, plastai a defnyddio'r arian parod i gwrdd ag enwogion, mae mwy yn datgan bwriadau mwy anhunanol.
Dywedodd ymchwilwyr, o'r Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), nad yw graddau'r anhunanoldeb ymhlith pobl ifanc wedi bod yn destun llawer o ymchwil diweddar. Mae hyn yn golygu bod y canfyddiadau, sy'n rhan o ymchwiliad mawr i mewn i ddyheadau pobl ifanc yng Nghymru, yn newydd.
Yn 2013, ymatebodd 1,143 o blant ym mlwyddyn 6 (10 ac 11 oed), blwyddyn 8 (12-13 oed) a blwyddyn 10 (14-15 oed), ar draws Cymru, i'r cwestiwn "Os byddai rhywun yn rhoi £1 miliwn i chi heddiw, beth fyddech chi'n ei wneud ag ef?"
Dywedodd cyfanswm o 25.1 y cant y byddent yn ei roi i gyd i ffwrdd; byddai 24.8 y cant arall yn rhoi rhywfaint i ffwrdd, ac yn gwario, neu gynilo'r gweddill; dywedodd 13.9 y cant y byddent yn arbed y cyfan ohono; a byddai 36.3 y cant yn gwario'r cyfan neu'r rhan fwyaf ohono.
O ran pwy fyddai'n elwa o'u haelioni, byddai rhyw 8 y cant yn rhoi popeth i elusen, gydag 17 y cant arall yn rhoi'r holl arian i gyfuniad o deulu, ffrindiau ac elusennau, a 25 y cant arall yn dweud y byddent yn rhoi cyfran sylweddol o'r £1m i elusen, teulu neu ffrindiau.
Dywedodd yr Athro Sally Power, a arweiniodd yr ymchwil, fod yr haelioni a adroddwyd amdano gan y plant yn llawer uwch ac yn fwy cyffredin nag yr oeddent wedi ei ddisgwyl cyn cynnal yr ymchwil. Dywedodd: "Rydym yn tueddu i feddwl bod plant yn hunanol, a'ch bod, wrth fynd yn hŷn, yn mynd yn llai hunanol, ac yn cyd-feddwl.
"Mae yna hefyd lawer o sôn yn y cyfryngau am blant sydd eisiau'r diweddaraf o bopeth, sydd gydag obsesiwn am nwyddau defnyddwyr a diwylliant enwogion. Mae pobl yn ofni ein bod i gyd yn dod yn fwy unigolyddol.
"Felly, nid oeddem yn disgwyl y lefelau uchel hyn o anhunanoldeb. Cefais fy synnu yn arbennig gan y niferoedd a ddywedodd na fyddent yn unig yn rhoi peth o'r arian i ffwrdd, ond hefyd gan y rhai a oedd yn mynd i'w roi i gyd i ffwrdd."
Mae ymchwilwyr Addysg WISERD yn cydnabod mai "ffantasi" yn unig yw'r cwestiwn ac y gallai'r realiti o sut y byddai plant yn ymddwyn, pe baent yn cael eu cyflwyno mewn gwirionedd gyda swm saith ffigur, yn wahanol.
Ond dywedodd yr Athro Power fod y canfyddiadau yn dangos bod yna o leiaf ymdeimlad treiddiol o ddelfrydiaeth ymhlith cefndir credoau plant, gyda llawer yn dangos teimladau cryf o haelioni tuag at ddieithriaid a'u teuluoedd.
"Mae'r data yn dangos cryn ymdeimlad cryf o gyfiawnder cymdeithasol, ac mae'r syniad bod rhoi i bobl mewn caledi, a lleddfu problemau ariannol y rhieni, aelodau eraill o'r teulu a ffrindiau, yn arbennig o bwysig i lawer o bobl ifanc.
"Er bod bwriadau anhunanol yn rhyfeddol o gyffredin, nid dyna fwriad pob un ac ni ddylem anwybyddu'r gyfran fawr o blant a oedd yn bwriadu gwario'r £1 miliwn arnynt eu hunain.
"Beth yw'r hyn sy'n arwain rhai plant i fod yn bennaf yn 'rhoddwyr', rhai yn 'gynilwyr' ac eraill yn 'rhai sy'n gwario'? Rhaid i'r archwiliad o'r ffactorau cymdeithasol hyn sy'n cyfrannu at y gwahanol warediadau olygu cymryd anhunanoldeb o ddifrif," ychwanegodd.
Cyflwynir 'If someone gave you £1 million today, what would you do with it? Children's Voices' gan yr Athro Sally Power yng Nghynhadledd Flynyddol BERA ar ddydd Iau 25 Medi.