Ffisiotherapydd-bresgripsiynydd annibynnol cyntaf Cymru
24 Medi 2014
Heddiw (24 Medi), darlithydd o gwrs rheng flaen y Brifysgol ar gyfer ffisiotherapi fydd y ffisiotherapydd sy'n ymarfer cyntaf yng Nghymru i gael y golau gwyrdd i bresgripsiynu meddyginiaethau i gleifion heb fod angen cydlofnodi gan feddyg.
Wedi ei ddwyn i mewn gan newidiadau i Reoliad Meddygaeth Dynol, mae Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi deddfwriaeth newydd a fydd yn golygu mynediad cyflymach i gleifion o Gymru i'r cyffuriau angenrheidiol sydd eu hangen i drin eu cyflwr.
Mae Gary Morris yn gweithio fel Darlithydd Cysylltiol yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ac mae'n ymarferydd ffisiotherapi uwch mewn adsefydlu niwrolegol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Cwblhaodd ei hyfforddiant o drosi presgripsiynu annibynnol ym mis Mehefin eleni, a heddiw, ef fydd y ffisiotherapydd cyntaf yng Nghymru sydd wedi cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) fel presgripsiynydd annibynnol.
"Mae llawer o bobl sydd â chyflyrau tymor hir yn gofyn am gyfuniad o feddyginiaethau a rheolaeth ffisegol i ddiwallu eu hanghenion orau," meddai Gary. "Er enghraifft, pigiadau botox a meddyginiaeth antispasmodic wedi eu cyfuno â ffisiotherapi ar gyfer sbasmau sy'n deillio o gyflyrau niwrolegol, neu analgesia ac ymarfer corff mewn poen cronig. Mae presgripsiynu annibynnol yn rhoi Ffisiotherapyddion mewn sefyllfa unigryw i fodloni'r anghenion hyn a chefnogi pobl i fod yn fwy annibynnol, cael gwell rheolaeth ar eu symptomau ac yn y pen draw gael gwell ansawdd bywyd."
Gadawodd tiwmor asgwrn cefn Kayleigh Davies, 24-mlwydd-oed, mewn cadair olwyn, gan ei gorfodi i ohirio, am y tro, ei gradd mewn Gwaith Cymdeithasol. Ar ôl llawdriniaeth i dynnu'r tiwmor, mae Kayleigh'n parhau i dderbyn triniaeth ffisiotherapi fel claf allanol yng nghlinig Gary, sy'n seiliedig yng Nghaerfyrddin.
Wrth siarad am ei thriniaeth, dywedodd: "Tra mod i'n cael ffisiotherapi datblygais sbasmau yn un o'm coesau a oedd yn golygu na allwn i wneud cynnydd gyda'm hadferiad. Llwyddodd un o'r ffisiotherapyddion yn y tîm i drin hyn gyda phigiadau botox i atal y sbasmau, ond roedd rhaid i mi aros i weld ymgynghorydd cyn iddynt gychwyn y driniaeth.
"Ar ôl cael y driniaeth yr oeddwn yn gallu parhau gyda'm ffisiotherapi ac rwyf bellach yn gallu cerdded pellteroedd byr gyda baglau ac ers hynny rwyf wedi gallu dychwelyd i'r brifysgol. Gyda'r newidiadau yn y gyfraith, ni fydd yn rhaid i mi aros i weld meddyg ymgynghorol os oes angen y driniaeth unwaith eto, sy'n wych. Mae hefyd yn wych na fydd rhaid i bobl eraill mewn sefyllfa debyg i mi aros i weld meddyg os oes angen y driniaeth hon arnynt yn y dyfodol. "
Ffisiotherapyddion a phodiatryddion o'r DU fydd y rhai cyntaf yn y byd i allu ymarfer yn y modd hwn, a fydd yn lleihau atgyfeiriadau at wasanaethau meddygon teulu a rhyddhau capasati ymgynghorol gan arbed amser ac arian.
Cafodd yr hawl i bresgripsiynu ei gyfreithloni ar gyfer ffisiotherapyddion sy'n ymarfer yn Lloegr ym mis Medi 2013 ac fe'i canmolwyd gan y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Norman Lamb, fel "carreg filltir enfawr yn y frwydr hir i gydnabod sgiliau ffisiotherapyddion".
Gall ffisiotherapyddion yng Nghymru wneud cais am gyllid ar gyfer hyfforddiant presgripsiynu annibynnol gan y Gwasanaeth Gweithlu, Addysg a Datblygu, sy'n gweithio ar ran GIG Cymru, y llywodraeth a darparwyr addysg yng Nghymru.