Atal triniaeth i gleifion sydd mewn cyflwr diymateb parhaol
23 Medi 2016
Yn ôl ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Efrog, nid yw'r system ofal yn diwallu gofynion pobl sydd mewn cyflwr diymateb parhaol (PVS). Daeth i'r amlwg iddynt fod rhai pobl sydd mewn cyflwr o'r fath yn cael eu cadw'n fyw am flynyddoedd, a hynny yn erbyn eu dymuniadau nhw a'u teuluoedd.
Mae'r Athro Jenny Kitzinger a'r Athro Celia Kitzinger o Ganolfan Ymchwil Comâu ac Anhwylderau Ymwybod Caerdydd-Efrog wedi cyfweld 75 o bobl sydd â pherthnasau sy'n dioddef anafiadau enbyd i'r ymennydd. Maent newydd gyhoeddi astudiaeth achos fanwl ynghylch un claf yn benodol, a elwir yn 'Miss S', a gafodd anaf enbyd i'r ymennydd yn 2012.
Edrychwyd ar beth ddigwyddodd i 'Miss S' wrth i'r sefyllfa fynd rhagddi, gan edrych ar beth achosodd oedi diangen cyn gwneud diagnosis o'r cyflwr, yn ogystal â cheisiadau llys a ganiataodd iddi farw bron bedair blynedd yn ddiweddarach, ym mis Mehefin 2016.
Cyhoeddwyd dadansoddiad yr ymchwilwyr yng nghyfnodolyn Journal of Medical Ethics ac amlygodd ddiffyg mynediad at arbenigedd, camau dilynol annigonol, methu gwneud penderfyniadau sydd er lles yr unigolyn o dan sylw, a dryswch ynghylch y gyfraith.
Un o ddeilliannau'r methiannau hyn yw bod rhai cleifion sydd mewn cyflwr diymateb parhaol yn parhau i gael triniaeth, er bod tystiolaeth na fyddent am gael eu cadw'n fyw fel hyn. Mae hyn yn digwydd hyd yn oed pan mae'r teuluoedd cyfan yn erbyn rhoi triniaeth, ac mae'r clinigwyr eu hunain yn credu nad parhau i roi triniaeth fyddai orau i'r cleifion.
Meddai'r Athro Jenny Kitzinger o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, a Chyd-gyfarwyddwr y Ganolfan: “Mae parhau i ymyrryd yn y fath fodd, er mwyn parhau bywyd, yn groes i hawliau'r claf unigol ac mae'n sefyllfa hynod drawmatig i'r teulu yn ogystal â'r staff. Mae angen mynd i'r afael â'r sefyllfa hon ar frys. Dim ond un o sawl enghraifft a ddaeth i'r amlwg yn ein hymchwil ehangach yw achos 'Miss S' yn ein herthygl academaidd."
Ychwanegodd yr Athro Celia Kitzinger o Adran Gymdeithaseg Prifysgol Efrog a chyd-gyfarwyddwr y Ganolfan: "Gall rhoi triniaeth nad yw er lles pennaf yr unigolyn gael ei ddiffinio ym maes y gyfraith fel ymosodiad. Yn sicr, mae'r teulu a'r staff yn teimlo bod hyn gyfystyr ag ymosod ar y claf, a gall yr hyn sy'n digwydd achosi llawer o ofid i'r claf."
Mae achos 'Miss S' yn un o gyfres o achosion a gafodd sylw gan yr athrawon, sy'n chwiorydd, ac sydd wedi cael eu profiad personol eu hunain o anaf enbyd i'r ymennydd. Maent hefyd wedi gwneud gwaith arloesol ynghylch agweddau cymdeithasol, cyfreithiol a moesegol ar anhwylderau ymwybod hirfaith.
Cysylltodd mam 'Miss S' â'r ddwy yn haf 2015 am ei bod yn credu'n gryf y dylai ei merch allu 'marw'n heddychlon a gydag urddas', ac roedd gweld sut roedd ei merch yn cael ei thrin yn torri ei chalon. Cynigiodd yr ymchwilwyr arweiniad i'r teulu ynghylch y gyfraith, hawliau'r claf, a'r fframwaith am 'yr hyn sydd orau' y dylid ei dilyn. Fe wnaethant hefyd gefnogi'r teulu yn ystod y gwrandawiadau llys.
Meddai'r Athro Jenny Kitzinger: "Rwy'n edmygu'n fawr sut mae'r teulu wedi brwydro - gyda llawer o gariad, ymroddiad, dewrder a dyfalbarhad. Ni ddylen nhw erioed fod wedi gorfod brwydro mor galed a thros gyfnod mor hir. Rhaid dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol – mae teuluoedd eraill yn dal i wynebu'r un brwydrau, ac mae cleifion eraill mewn sefyllfaoedd tebyg yn parhau i gael ymyriadau i ymestyn eu bywyd er gwaethaf yr hyn y bydden nhw fod wedi dymuno. Mae cost moesegol a chymdeithasol enfawr i'r anghyfiawnder hwn."
O ganlyniad i'w hymchwil, mae'r ddwy athro yn cyflwyno nifer o argymhellion. Mae'r rhain yn cynnwys gwneud yn siŵr bod cleifion sydd ag anafiadau enbyd i'r ymennydd yn cael mynediad at ofal medrus sy'n rhoi'r unigolyn yn gyntaf; creu cofrestr o gleifion o'r fath, a gwasanaethau dilynol effeithiol; mae hyn ochr yn ochr â chasglu tystiolaeth glinigol a gwybodaeth yn ofalus am ddymuniadau'r claf yn ogystal â'r rhai sy'n gofalu amdanynt a'r rhai sy'n ariannu eu gofal.
Eglurodd yr Athro Jenny Kitzinger: "Nid yw'n glir a yw'r gyfraith bresennol yn golygu bod yn rhaid i feddygon fynd i'r llys cyn tynnu tiwb bwydo i gleifion sydd mewn cyflyrau diymateb parhaol neu gyflyrau lled-anymwybodol. Fodd bynnag, mae canllawiau amrywiol yn awgrymu yn ôl pob golwg, ac mae cyfeirio achosion i'r llys yn broses gyffredin. Mae angen newid hyn.
"Mae angen i dimau clinigol allu dod i benderfyniad amserol sy'n rhoi'r claf yn gyntaf. Ni ddylai cleifion fynd yn angof na orfod cael triniaeth na fydden nhw wedi'i dymuno oni bai bod llys yn penderfynu fel arall. Dylai amser y llysoedd gael ei neilltuo ar gyfer anghydfodau ynghylch y ffordd gywir ymlaen."
Cyhoeddir y papur Causes and Consequences of Delays in Treatment-Withdrawal from PVS Patients: A Case Study of Cumbria NHS Clinical Commissioning Group v Miss S and Ors [2016] EWCOP 32 yng nghyfnodolyn Journal of Medical Ethics. Dyma'r drydedd o dair erthygl gan yr awduron hyn yn y cyfnodolyn sy'n trin a thrafod penderfyniadau ar ddiwedd oes. Roedd yr erthyglau blaenorol yn ystyried barn gyffredinol teuluoedd ynghylch atal triniaethau sy'n ymestyn bywyd, a sut brofiad oedd mynd i'r llys i'r ychydig deuluoedd a gymerodd y llwybr hwn.
Grŵp aml-ddisgyblaethol o ymchwilwyr yw Canolfan Ymchwil i Anhwylderau Cronig yr Ymwybod Caerdydd-Efrog. Maent yn ymchwilio i agweddau diwylliannol, moesegol, cyfreithiol a hanesyddol ar gyflyrau diymateb a lled-ymwybodol.
Mae rhagor o wybodaeth a chefnogaeth ar gyfer teuluoedd ac ymarferwyr sy'n gweithio yn y maes hwn, ar gael yn healthtalk.org.