Cynghrair GW4 yn penodi Cyfarwyddwr newydd
22 Medi 2016
Mae Cynghrair GW4 wedi cyhoeddi eu bod wedi penodi Dr Sarah Perkins, sy'n Gyfarwyddwr Rhaglenni (Ymchwil) yn y Gyfadran Meddygaeth yng Ngholeg Imperial Llundain, yn Gyfarwyddwr newydd y Gynghrair.
Mae Dr Sarah Perkins wedi rheoli portffolio ymchwil o'r radd flaenaf yng Nghyfadran Meddygaeth Coleg Imperial Llundain, un o'r cyfadrannau meddygol mwyaf yn Ewrop. Ers ei phenodi yn 2009, mae ei rôl wedi cynnwys datblygu a chyflwyno strategaeth ymchwil, ac arwain mentrau fel cyflwyno ceisiadau ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Mae hefyd wedi cydweithio'n agos â nifer o Ymddiriedolaethau'r GIG drwy'r Ganolfan Gwyddorau Iechyd Academaidd Imperial (AHSC) i feithrin cydweithio a rhoi strategaeth ymchwil ar waith ar lefel uwch. Mae'r modd y llwyddodd i gyflwyno ac adnewyddu un o Ganolfannau Ymchwil Fiomeddygol mwyaf y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) yn enghraifft o hyn.
Cafodd ei chyflawniadau gydnabyddiaeth yn 2013 pan gafodd ei henwi ar restr fer Gwobrau Menywod y Dyfodol, ac mae hefyd yn Gymrawd o Sefydliad Abaty Westminster.
Dywedodd yr Athro Fonesig Glynis Breakwell, Is-Ganghellor Prifysgol Caerfaddon a Chadeirydd Cyngor GW4: "Mae Dr Sarah Perkins yn ymuno â Chynghrair GW4 ar adeg cyffrous yn ein datblygiad. Ers sefydlu Cynghrair GW4 yn 2013, rydym wedi cael enw da yn rhyngwladol am gyflwyno hyfforddiant doethurol o'r radd flaenaf ac ymchwil arloesol. Bydd arbenigedd Sarah ym maes strategaeth ac arian ymchwil yn ein helpu i yrru arloesedd ledled Cymru a de-orllewin Lloegr er lles ein cymunedau lleol."
Meddai'r Athro Nick Talbot, Cadeirydd Bwrdd Cynghrair GW4 a Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac Effaith ym Mhrifysgol Caerwysg: "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Dr Sarah Perkins yn Gyfarwyddwr Cynghrair GW4. Mae gan Sarah brofiad helaeth o gyflwyno strategaethau ymchwil a gwneud cynigion llwyddiannus am arian mawr. Edrychwn ymlaen at arweiniad Sarah, wrth inni ddatblygu ein strategaeth tymor hir wrth ddod â chryfderau diwydiannol ac ymchwil ein rhanbarth ynghyd."
Sefydlwyd GW4 yn 2013 ac mae'n dod â phedair prifysgol ymchwil-ddwys flaenllaw ynghyd: Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg. Ei nod yw cryfhau'r economi ar draws y rhanbarth drwy weithredu fel ffowndri ar gyfer syniadau a thalent newydd.
Hyd yma, mae GW4 yn arwain 29 o raglenni hyfforddiant a gefnogir gan Gyngor Ymchwil y DU ac Ymddiriedolaeth Wellcome, ymhlith eraill. Mae'r rhain yn cynnig amgylchedd rhagorol ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol. Mae hefyd wedi creu 61 o gymunedau ymchwil, sy'n ymgymryd â gwaith arloesol gan gynnwys ym meysydd diagnosis a thriniaeth Alzheimer, a chynhyrchu biodanwydd o ddŵr cloddfeydd.