Ewch i’r prif gynnwys

Un o bob deg presgripsiwn gwrthfiotig 'yn methu'

26 Medi 2014

Antibiotics

Dros gyfnod o 22 blynedd mae dros un o bob 10 o'r holl driniaethau gwrthfiotig mewn lleoliadau gofal sylfaenol wedi methu. Mae'r gyfradd wedi codi ac mae'n parhau i wneud hynny, yn ôl astudiaeth newydd a ddadansoddodd bron i 11 miliwn presgripsiwn gwrthfiotig yn y DU.

Mae llawer o ddata wedi'i gasglu am ymwrthedd gwrthfiotig mewn ysbytai, ond ychydig iawn a wyddom am amlder a phatrwm gwrthfiotigau'n methu ym maes gofal sylfaenol.

Felly aeth ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ati i asesu cyfraddau methu triniaethau gwrthfiotig mewn gofal sylfaenol yn y DU. Canolbwyntiwyd yn arbennig ar bedwar o'r mathau mwyaf cyffredin o heintiau: heintiau rhan uchaf y llwybr resbiradu, heintiau rhan isaf y llwybr resbiradu, heintiau'r croen a'r feinwe feddal, a llid yn y glust ganol.

Datgelodd canfyddiadau bod methiannau triniaeth wrthfiotig yn gyffredinol rhwng 1991 a 2012 wedi codi o 13.9% (1991) i 15.4% (2012), sy'n dangos cynnydd o 12% yn y gyfradd fethiant, mewn cymhariaeth â'r ffigurau gwreiddiol a gymerwyd.

Arhosodd cyfraddau methu triniaethau ar gyfer gwrthfiotigau y rhoddir presgripsiwn amdanynt yn gyffredin fel amoxicillin, penicillin a flucloxacillin o dan 20% gydol y cyfnod a astudiwyd, tra oedd gwrthfiotigau nad ydynt yn cael eu hargymell fel arfer ar gyfer therapïau'r llinell flaen yn dangos cyfraddau effeithiolrwydd oedd yn peri pryder. Yn enwedig, dangosodd Trimethoprim, gwrthfiotig a ddefnyddir fel arfer i drin heintiau rhan uchaf y llwybr resbiradu ac sydd ar gofrestr 'meddyginiaethau hanfodol' Sefydliad Iechyd y Byd, gynnydd o 40% yn y gyfradd methu.

"Mae cysylltiad cryf rhwng y cynnydd yn y triniaethau gwrthfiotig sy'n methu a chynnydd mewn presgripsiynau," meddai'r Athro Craig Currie o'r Coleg Meddygaeth. "Rhwng 2000 a 2012, cododd cyfradd yr heintiau sy'n cael eu trin â gwrthfiotigau o 60% i 65%, sef y cyfnod lle gwelwn ni'r cynnydd mwyaf yng nghyfraddau methu gwrthfiotigau. Roedd y methiant hwn fwyaf trawiadol pan nad y gwrthfiotig a ddewiswyd oedd y dewis cyntaf i'r cyflwr oedd yn cael ei drin.

"O gofio nad oes digon o wrthfiotigau newydd yn cael eu datblygu, mae aneffeithiolrwydd cynyddol gwrthfiotigau sy'n cael eu rhoi drwy ofal sylfaenol yn peri pryder mawr. Mae canfyddiad ar gam mai i gleifion mewn ysbytai'n unig y mae ymwrthedd gwrthfiotig yn berygl, ond y ffactor risg pwysicaf i haint ag organeb sydd ag ymwrthedd yw defnydd gwrthfiotig diweddar mewn gofal sylfaenol. At hynny, mae'r hyn sy'n digwydd mewn gofal sylfaenol yn cael effaith ar ofal mewn ysbytai ac fel arall.

"Mae angen monitro ymwrthedd gwrthfiotig mewn gofal sylfaenol yn fwy agos, rhywbeth sydd mewn gwirionedd yn eithaf anodd o gofio mai'n anaml y mae clinigwyr gofal sylfaenol yn adrodd bod triniaethau wedi methu. Hefyd mae angen ymchwilio ymhellach i'r cysylltiad rhwng ymwrthedd gwrthfiotigau a thriniaethau gwrthfiotig sy'n methu. O ystyried lefel gyffredinol y trafod brwd, nid hwn yn union yw'r "clogwyn" y bydden ni wedi'i ddychmygu, ond yn amlwg mae hyn yn achos pryder."

Yn Ewrop, mae heintiau ysbyty a achoswyd gan facteria sydd ag ymwrthedd i wrthfiotigau'n achosi 25,000 marwolaeth bob blwyddyn, mwy o forbidrwydd a 1.5 biliwn Ewro mewn costau gofal iechyd a chymdeithasol. Mae ymwrthedd microbaidd i wrthfiotigau wedi cynyddu'n frawychus o gyflym yn ystod y degawdau diwethaf, fel bod Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi bod y mater yn 'argyfwng ym maes iechyd y cyhoedd'.

Ychwanegodd yr Athro Currie: "Mae angen inni sicrhau bod cleifion yn cael y feddyginiaeth briodol i'w cyflwr a lleihau i'r eithaf unrhyw driniaeth ddiangen neu amhriodol a allai fod yn porthi ymwrthedd microbaidd i wrthfiotigau, yn gwneud i salwch bara'n hirach ac, o bosib mewn nifer bach o achosion, yn lladd pobl."

Roedd y meini prawf a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth i ddiffinio methiant triniaethau gwrthfiotig yn cynnwys rhoi presgripsiwn am gyffur gwahanol cyn pen 30 diwrnod ar ôl rhoi gwrthfiotig y llinell flaen; cofnod i glaf gael ei dderbyn i'r ysbyty am ddiagnosis cysylltiedig â haint cyn pen y 30 diwrnod cyntaf ar ôl rhoi presgripsiwn am gyffur y llinell flaen; meddyg teulu'n cyfeirio'r claf at arbenigwr cysylltiedig â haint cyn pen 30 diwrnod ar ôl dechrau'r driniaeth; a'r claf yn marw gyda diagnosis cysylltiedig â haint cyn pen 30 diwrnod ar ôl dechrau'r driniaeth wrthfiotig.

Defnyddiodd yr ymchwilwyr ddata a dynnwyd o gronfa ddata 'Clinical Practice Research Datalink (CPRD)' i asesu sut roedd gwrthfiotigau'r llinell flaen yn methu yn y DU o 1991 i 2012. Mae'r ffynhonnell ddata'n cadw cofnodion dros 14 miliwn unigolyn a gafwyd o 700 practis gofal sylfaenol yn y DU. Mae'r astudiaeth yn pwysleisio pam mae ar ymchwilwyr angen mynediad i ddata gofal iechyd dienw o boblogaeth y DU.

Ariannwyd yr astudiaeth gan Abbott Healthcare Products.

Rhannu’r stori hon