Jon Snow yn ymweld â myfyrwyr newyddiaduraeth Caerdydd
29 Medi 2014
Ymwelodd Jon Snow, darlledwr newyddion enwog Channel 4, â Phrifysgol Caerdydd yr wythnos ddiwethaf i rannu ei weledigaeth am ddyfodol newyddiaduraeth.
Ysbrydolodd fyfyrwyr Newyddiaduraeth Darlledu, Cylchgronau a Phapurau Newydd o'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol gyda hanesion o'i yrfa hirfaith
O'i waith yn ystod rhyfel cartref El Salvador yn anterth y Rhyfel Oer i gyfweld â chyn Prif Weinidog Prydain, Margaret Thatcher ym Madrid, rhoddodd fewnwelediad diddorol i'r ffordd mae'r diwydiant newyddiaduraeth yn gweithio go iawn.
Siaradodd Jon am flynyddoedd cynnar ei yrfa fel adroddwr tramor pan roedd hi'n bosibl adrodd newyddion hyd at bedwar diwrnod ar ôl iddo ddigwydd ac iddo barhau i fod yn berthnasol, yn ogystal ag am heddiw, lle mae modd i'r cyhoedd ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i gael mynediad at y trwch o wybodaeth sydd ar gael ar y rhyngrwyd.
Dywedodd Jack Averty, myfyriwr Newyddiaduraeth Papurau Newydd: "Ni oedodd y myfyrwyr a'r staff rhag holi Jon yn ystod y sesiwn holi ac ateb, pan wnaeth esbonio y byddai wastad lle i newyddion teledu ym maes newyddiaduraeth, hyd yn oed wrth i'r cyfryngau cymdeithasol a'r newyddion sy'n torri ddatblygu i hawlio lle llawer mwy blaenllaw."
Dywedodd Ed Ludlow, myfyriwr Newyddiaduraeth Darlledu: "Rhoddodd ymweliad Jon hwb sylweddol i bob un ohonom ni gan ailgynnau'r cyffro rydym ni'n ei deimlo mewn perthynas â'n gyrfaoedd newyddiadurol.
"Cyflwynodd safbwyntiau angerddol, awchus, calonogol a gonest ar ei weledigaeth am ddyfodol darlledu a rhannodd gyngor gwerthfawr a dealladwy gyda ni.
"Bydd ei ymweliad yn ein hysgogi a byddwn oll yn ceisio bod mor bendant a phenderfynol o ddatgelu'r gwir yn ystod ein gyrfaoedd. Am ddechrau gwych i'r flwyddyn! Jon Snow, Brenin y Newyddion."
Ar ôl y ddarlith, roedd Jon yn barod i gael tynnu ei lun wedi gyda'r myfyrwyr. Mae modd gweld yr hun-luniau fan hyn yn ogystal â detholiad o negeseuon Twitter a lluniau aelodau staff a myfyrwyr isod.