Ysgoloriaethau ymchwil sylweddol i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd
19 Medi 2016
Ers degawd a mwy mae myfyrwyr cyfrwng Cymraeg wedi manteisio ar gyllid gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddilyn cyrsiau doethuriaeth mewn prifysgolion ledled Cymru. Eleni bydd deg arall, yn cynnwys dwy o Brifysgol Caerdydd, yn dechrau ar y daith honno am gyfnod o dair blynedd.
Dyfarnwyd dwy ysgoloriaeth i Brifysgol Caerdydd, gwerth hyd at £18,000 dros gyfnod o dair blynedd, i Rhianwen Daniel o Gaerdydd a Megan Haf Morgans o Abergwili.
Astudio’r dylanwadau a fu ar waith a theithiau meddwl Athronydd pwysicaf y Gymru Gymraeg, sef y diweddar Athro J.R. Jones, fydd Rhianwen. Bydd hi’n astudio dan oruchwyliaeth yr Athro Richard Wyn Jones o’r Adran Wleidyddiaeth a Dr Huw Williams o’r Adran Athroniaeth.
Bydd Megan, sydd eisioes wedi ennill graddau B.A. ac M.A. yn Ysgol y Gymraeg, yn canolbwyntio ar Lenyddiaeth Plant a hynny dan oruchwyliaeth Dr Siwan Rosser a'r Athro Sioned Davies yn yr Ysgol:
Dywedodd Megan:
"Rwyf mor falch o fod wedi cael fy newis fel un o ddeiliaid ysgoloriaethau ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Edrychaf ymlaen at ddechrau ar y cwrs Doethuriaeth ym mis Hydref a chanolbwyntio’n benodol ar y berthynas rhwng iaith, delwedd ac ystyr mewn llenyddiaeth ddarluniadol i blant yn y Gymraeg.
"Gobeithiaf fydd y cwrs yn rhoi cyfle i mi arwain seminarau a chyd-weithio’n agos ag ymchwilwyr eraill. Yn ogystal, rwy’n gobeithio y gallaf gyfoethogi a chyfrannu at ymchwil llenyddiaeth plant yn y Gymraeg."
Cewch ragor o wybodaeth am Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar y wefan.